Category Archives: Projectau a Gwblhawyd

SALT Cymru

Roedd SALT Cymru yn ddau broject dilynol, gyda’r cyntaf yn Astudiaeth Ddichonolrwydd a’r ail yn rhwydwaith ar gyfer cwmnïau a sefydliadau â diddordeb mewn technolegau iaith.

Ariannwyd Rhwydwaith SALT Cymru drwy’r cynllun A4B o gronfa ERDF yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a bu’n weithredol rhwng 2009 a 2011. Yn ystod y cyfnod hwn gweithiodd gyda nifer mawr o gwmnïau meddalwedd a chwmnïau yn y sector diwydiannau creadigol a chyrff eraill oedd a diddordeb mewn hybu economi Cymru drwy wella’u defnydd o’r technolegau newydd hyn. Arweiniodd hyn at sefydlu’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol lle ceir adnoddau ac offer at ddefnydd cwmnïau a datblygwyr sydd eisiau cynnwys y Gymraeg yn eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Erbyn hyn hefyd sefydlwyd Clwstwr Gallu Iaith Cymru ar LinkedIn er mwyn i bawb sydd â diddordeb mewn technolegau iaith, polisi, strategaeth a materion cysylltiedig eraill fedru cadw mewn cysylltiad â’i gilydd.

Beth yw SALT?

Mae SALT (Technolegau Iaith a Lleferydd neu Speech and Language Technologies) yn cynnwys:

  • Technoleg lleferydd
    (adnabod lleferydd,adnabod siaradwr, technegau testun-i-leferydd,
    codio a gwella lleferydd, prosesu lleferydd amlieithog)
  • Mewnbwn iaith ysgrifenedig
    (OCR – adnabod nodau’n optegol, adnabod llawysgrifen)
  • Dadansoddi, deall a chynhyrchu iaith
    (gramadeg, semanteg, parsio, disgwrs a deialog)
  • Prosesu dogfennau
    (echdynnu termau a thestun, dehongli, crynhoi)
  • Cyfieithu peirianyddol
    (gan gynnwys cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, adalw gwybodaeth amlieithog)
  • Amlfoddolrwydd
    (adnabod ystumiau a symud gwynebau, delweddu data testun)
  • Adnoddau iaith
    (corpora llafar ac ysgrifenedig, lecsiconau, terminoleg)
  • Gwerthuso
    (gwerthuso’r cyfan uchod)

Beth gyflawnodd y project?

  • Creu’r rhwydwaith gyntaf erioed ym maes technolegau iaith a lleferydd yng Nghymru i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd.
  • Braenaru’r tir ar gyfer ymchwil pellach y maes technolegau iaith a lleferydd yng Nghymru.
  • Creu cyflwyniadau ac arddangosiadau ar-lein i dechnolegau SALT ar gyfer diwydiant Cymru.
  • Cynnal seminarau i fusnesau ar wahanol agweddau o SALT.
  • Cynnal sesiynnau un-i-un i gyflwyno SALT i fusnesau a thrafod ffynonellau cyllido posibl.
  • Cynnal Cynhadledd Terminoleg ac Adnoddau Iaith Eraill ar gyfer Diwydiant Cymru gan gynnwys cyflwyniad gan brif derminolegydd IBM, Kara Warburton.
  • Cyflwyniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2010 a chynhadledd Cyfieithwyr Cymru.
  • Creu canllawiau ar gyfer rhifo Cymraeg mewn meddalwedd.

Mae rhwydwaith SALT Cymru bellach wedi’i hymgorffori yn y Clwstwr Gallu Iaith.

SALT-Cymru-_HE-06-KEP-1002_-Project-Closure-Report
welsh-numerical-forms

CATcymru

Ariannwyd y project arddangos CATcymru drwy’r cynllun A4B o gronfa ERDF yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a bu’n weithredol rhwng 2009 a 2011. Ei ddiben oedd dangos a hybu’r defnydd o dechnoleg cyfieithu o fewn y diwydiant cyfieithu yng Nghymru a throsglwyddo gwybodaeth o ymchwil a datblygu blaengar yn y maes hwn o academia i ddiwydiant. Dangosodd sut y gall y defnydd o offer addas wella ansawdd a chyflymder prosesau cyfieithu.

Beth yw CAT?

Technoleg Cyfieithu (CAT) yw’r holl adnoddau cyfrifiadurol sy’n gallu hwyluso gwaith cyfieithu. Mae’n cynnwys:

  • Meddalwedd cof cyfieithu
  • Adnoddau terminolegol a geirfaol
  • Rhag-gyfieithu awtomatig
  • Offer gwirio iaith
  • Offer dilysu fformatau ffeil
  • Systemau rheoli llif gwaith a cyfrifo

Beth gyflawnodd y project?

  • Cynhyrchu adroddiad “Gwell offer technoleg gwybodaeth ar gyfer y Diwydiant Cyfieithu yng Nghymru: Arolwg dadansoddol” (gweler isod)
  • Paratoi arddangosiadau eglur ar-lein
  • Cynnal gweithdai i fusnesau a chyfieithwyr unigol ar bynciau oedd yn cynnwys:
    • Technoleg Cyfieithu
    • Codau Iaith a Localau
    • Hollti Cofion Cyfieithu
    • Torri Costau a Gwella Canlyniadau
    • Cyfieithu a Drafftio Dwyieithog
    • Creu Geirfaon Cwmni
    • Cyweiriau Iaith
  • Cynnal Cynhadledd Technoleg Cyfieithu a’r Economi Ddigidol
  • Cyflwyniadau yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 a chynhadledd Cyfieithwyr Cymru
  • Creu canllawiau ar gyfer rheoli gwefannau dwyieithog ac amlieithog
  • Creu Porth Termau cenedlaethol ar y We
CATcymru_AdroddiadTerfynol_HE06fsp_CY

 

RheoliGwefannauDwyieithog_ManagingMultilingualWebsites_CY_EN

TILT Cymru : Hyfforddiant Ieithoedd a Chyfieithu

Diben project TILT oedd gwella sgiliau ieithoedd modern a chyfieithu busnesau bach yng Nghymru. Roedd yr ieithoedd modern dan sylw yn cynnwys:

·         Cymraeg, Cymraeg Canolradd, Cymraeg – Magu Hyder Sylfaenol, Cymraeg – Magu Hyder Uwch
·         Ffrangeg
·         Sbaeneg
·         Almaeneg
·         Mandarin
·         Japaneeg

Roedd modd dysgu ieithoedd eraill hefyd (e.e. Catalaneg, Eidaleg) lle roedd digon o alw. Doedd dim angen cymwysterau ymlaen llaw i ddysgu’r ieithoedd hyn, ac roedden nhw i gyd ar gael ar lefel dechreuwyr.  Roedd Cymraeg i gael hefyd ar lefelau uwch, gan gynnwys cyrsiau magu hyder i siaradwyr rhugl.

Roedd y cyrsiau wedi’u teilwra at anghenion busnesau bach sydd angen cyfathrebu gyda’u cwsmeriaid, neu fusnesau sydd eisiau allforio i farchnadoedd tramor. Roedd pob cwrs yn fodiwl 10 credyd, wedi’i achredu gan Brifysgol Bangor. Rhoddwyd tystysgrif Prifysgol Bangor i bawb wnaeth gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Bwriadwyd y cwrs cyfieithu ar gyfer pobl sydd â gradd neu brofiad cyfatebol, ac fe’i seilwyd ar fodiwlau o gwrs MA Astudiaethau Cyfieithu Prifysgol Bangor. Cynigiwyd 2 fodiwl 30 credyd yr un. O gwblhau’r ddau fodiwl yn llwyddiannus, dyfarnwyd Tystysgrif Ôl-radd Astudiaethau Cyfieithu a Thechnoleg Cyfieithu Prifysgol Bangor i’r myfyrwyr.  Roedd hwn yn gwrs addas i bobl sydd eisoes yn gweithio fel cyfieithwyr ar eu liwt eu hun neu mewn cwmnïau preifat.  Roedd hefyd yn addas ar gyfer swyddogion iaith cwmnïau, neu weithwyr sydd angen meithrin eu sgiliau cyfieithu fel rhan o’u datblygiad swydd.

Y ddau fodiwl cyfieithu oedd
1)Creu Portffolio Cyfieithu LWC 4702
2)Cyfieithu ar Waith LWC 4701

Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i gyd  i weddu i batrwm gwaith busnesau prysur, gyda phwyslais ar sesiynau wyneb yn wyneb ar adegau cyfleus i’r busnesau, a hefyd cefnogaeth ac adnoddau pellach dysgu o bell.

Dyma rai astudiaethau achos gan y cwmnïau y buom yn gweithio gyda nhw, cliciwch ar y ddolen i weld astudiaeth achos : –

1) Cymorth Llaw – Cymraeg Rhagarweiniol , Cymraeg Rhagarweiniol Plws, Magu Hyder Syflaenol

2)Anheddau Cyf – Cymraeg Rhagarweiniol , Cymraeg Rhagarweiniol Plws, Magu Hyder Syflaenol

3)Canolfan Ddringo Beacon -Cymraeg Rhagarweiniol , Cymraeg Rhagarweiniol Plws,

4)Celticos Ltd – Almaeneg RhagarweinioI ,Almaeneg RhagarweinioI Plws

5)Ian Parri – Creu Portfolio Cyfieithu , Cyfieithu ar Waith

6)Catrin Roberts – Creu Portfolio Cyfieithu , Cyfieithu ar Waith

7)Kathryn Sharp – Creu Portfolio Cyfieithu , Cyfieithu ar Waith

8)Gwenlli Haf Evans Creu Portfolio Cyfieithu , Cyfieithu ar Waith

esf

Project Adnabod Lleferydd Sylfaenol

Roedd y project Adnabod Lleferydd Sylfaenol yn broject peilot bychan a ariannwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Datblygodd gyfrifiannell a oedd yn cael ei gyrru gan leferydd er mwyn dangos potensial adnabod lleferydd Cymraeg. Prototeip labordy oedd y feddalwedd a ddeilliodd o hyn, yn hytrach na rhaglen sy’n barod i’r farchnad, ac mae’r gwaith ymchwil bellach wedi’i ymgorffori o fewn projectau GALLU a Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg.

Project GALLU : Gwaith Adnabod Lleferydd Uwch

Bwriad project GALLU oedd datblygu adnoddau datblygu lleferydd uwch  ar gyfer yr iaith Gymraeg.  Arianwyd y project drwy grant gan Lywodraeth Cymru ac S4C. Gan adeiladu ar broject Adnabod Lleferydd Sylfaenol 2008-09 a phroject testun i leferydd WISPR 2003-2006, llwyddodd y project i wneud y canlynol:

  • cynllunio a datblygu casgliad o bromtiau sy’n cynnwys holl ffonemau’r iaith Gymraeg
  • casglu drwy ddulliau thorfoli o fewn ap newydd o’r enw Paldaruo, recordiadau o’r promtiau hyn yn cael eu llefaru gan y nifer mwyaf o bobl amrywiol, gan greu corpws lleferydd Cymraeg newydd.
  • enghreifftio defnyddio adnoddau’r corpws i hyfforddi meddalwedd adnabod lleferydd cod agored Julius ac HTK i reoli symudiad tegan robot yn glwm i Raspberry Pi
  • paratoi’r corpws ar gyfer datblygu yn y dyfodol systemau arddweud Cymraeg gan gynnwys creu teipoleg cyweiriau iaith gyda metadata addas ar gorpws hyfforddedig wedi’i dagio yn ôl nodweddion cywair
  • creu ategyn canfod a chadarnhau iaith cynnwys diofyn porwr ar gyfer Cymreigio tudalennau torfoli a gwefannau eraill

Cyfrannu

Er bod y project wedi dod i ben yn ffurfiol, mae croeso o hyd i chi ychwanegu eich llais i’r corpws drwy’r ap Paldaruo sydd ar gael isod. Byddwn yn defnyddio’r corpws ehangach mewn projectau pellach maes o law.

paldaruo

iTunes  Google Play