TILT Cyfieithu ar Waith LWC 4701

Lefel Addysg Uwch 7 (Gradd Meistr)

Cyfanswm Credydau: 30

1.   12 tasg wythnosol sylwebaethol hyd at 500 gair yn cael eu marcio wrth fynd ymlaen a fydd tua 6,000 o eiriau rhyngddynt i’w cyflwyno dros y we ……………………………..67%

2.   Aseiniadau ysgrifenedig (6) i’w cyflwyno bob yn ail wythnos hyd at 500 gair yr un (cyfanswm o tua 3,000 o eiriau) i’w cyflwyno dros y we  yn ymdrin ag agwedd ymarferol o gyfieithu ar waith ………..33%

Mae’r modiwl yn anelu at:

1. Sicrhau ymwybyddiaeth fanwl o gysyniad cyfieithu cymhwysol a’r amrywiaeth eang o fathau sydd ohono.

2. Ennill trosolwg manwl o fethodoleg cyfieithu ac offer cyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur.

3. Dadansoddi’r defnydd ar amrywiaeth eang o ddulliau ymarferol o gyfieithu.

Cynhelir sesiwn agoriadol yn y Brifysgol a dwy sesiwn drwy’r dydd ar ddau ddydd Sadwrn yn ystod y cwrs.