TILT Japaneeg Rhagarweiniol

Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio i gynnig cyflwyniad i Japaneeg elfennol gyda’r pwyslais ar ddatblygu sgiliau gwrando, siarad a darllen ymarferol. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar y sgiliau ieithyddol angenrheidiol i ddod i ben ag amrywiaeth o sefyllfaoedd byw bob dydd, gan ddefnyddio’r iaith yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol a phroffesiynol, gan gyflwyno’r myfyrwyr i agweddau ar ddiwylliant Japan.

Dysgir y modiwl hwn ar y dechrau yn Gymraeg neu Saesneg gyda chynnydd graddol yn y defnydd o Japaneeg.  Bydd pwyslais y modiwl ar gyfathrebu ac addasu diwylliant gyda’r bwriad o baratoi’r myfyrwyr ar gyfer teithio, masnachu a gweithio mewn cyd-destun byd eang. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dechrau ymgynefino ag arwyddnodau Japaneeg.

Oriau cyswllt: 24 awr.