Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau ac offer iaith cyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a sefyllfaoedd amlieithog.

cwmwl_geiriau_glaswyrdd_fflatMae’r Uned yn gyfrifol am Cysgliad, y pecyn gwirio iaith a chasgliad o eiriaduron cynhwysfawr, ynghyd â nifer o offer gwirio iaith eraill.

Mae’n gwneud gwaith safoni termau, ac yn datblygu geiriaduron electronig ar sawl platfform gwahanol gan gynnwys ar ffurf gwefannau ac apiau.

Mae’n datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, ac yn cynnal cronfeydd data enwau lleoedd ar y we.

Mae’r Uned hefyd yn datblygu deunyddiau dysgu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys gemau iaith.

Mae gan yr Uned gysylltiadau agos â nifer o adrannau academaidd yn y brifysgol, gan gynnwys Cymraeg, Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cymdeithaseg a Gwyddorau Gofal Iechyd. Yn 2016 bu’r Uned yn un o sefydlwyr Rhwydwaith Ymchwil Technoleg a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, sy’n dod ag ymchwilwyr yn y maes hwn at ei gilydd o fewn y brifysgol.

Mae ganddi hefyd gysylltiad agos â byd busnes a diwydiant, ac mae’n ymgymryd â chynlluniau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP). Mae wedi cynnal projectau KTP llwyddiannus gyda chwmnïau fel Testun, y Lolfa a Semantise. Cafodd ei KTP diweddar gyda chwmni cyfieithu Cymen A* am ragoriaeth, ac mae hefyd wedi denu nawdd Innovate UK i weithio  gyda chwmni Haia yn MSparc, Parc Gwyddoniaeth Môn.

Mae’n cyfrif Cymdeithas Cyfieithu Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac S4C ymhlith ei phartneriaid, ac wedi cydweithio gyda What3Words a Gairglo i gynnwys y Gymraeg yn eu cynnyrch. Mae hefyd wedi gweithio gyda chwmnïau rhyngwladol gan gynnwys Microsoft a Mozilla i ddatblygu adnoddau Cymraeg. Gall weithio gyda chwmnïau o bob maint i ymchwilio a datblygu meddalwedd ac adnoddau Cymraeg, ac mae’n cyhoeddi llawer o’i hadnoddau digidol yn agored ar GitHub. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol.