TILT Tsieineeg Mandarin Rhagarweiniol

Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio i gynnig cyflwyniad i Tsieineeg Mandarin gyda’r pwyslais ar sgiliau gwrando, siarad a darllen ymarferol. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar y sgiliau ieithyddol angenrheidiol i ddod i ben ag amrywiaeth o sefyllfaoedd byw bob dydd, gan ddefnyddio’r iaith yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol a phroffesiynol, gan gyflwyno’r myfyrwyr i agweddau ar ddiwylliant Tsieina.

Dysgir y modiwl hwn ar y dechrau yn Saesneg gyda chynnydd graddol yn y defnydd o Fandarin.  Bydd pwyslais y modiwl ar gyfathrebu ac addasu diwylliant gyda’r bwriad o baratoi’r myfyrwyr ar gyfer teithio, masnachu a gweithio mewn cyd-destun byd eang. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dechrau ymgynefino ag arwyddnodau Tsieineeg.

Oriau cyswllt: 24 awr.