TILT Creu Portffolio Cyfieithu LWC 4702

Lefel Addysg Uwch 7 (Gradd Meistr)

Cyfanswm Credydau: 30

1.    Tasgau wythnosol (12) hyd at uchafswm o 500 gair i’w cyflwyno bob wythnos dros y we a fydd yn adeiladu Portffolio Cyfieithu rhwng 5,000 a 6,000 o eiriau i gyd ………………….67%

2. Aseiniadau ysgrifenedig (6) i’w cyflwyno bob yn ail wythnos hyd at 500 gair yr un (cyfanswm o tua 3,000 o eiriau) i’w cyflwyno dros y we  yn ymdrin ag agwedd ymarferol ar y tasgau cyfieithu ……….33%

Mae’r modiwl yn anelu at:

  1. Gyflwyno’r myfyrwyr i dasgau cyfieithu go iawn lle caiff gwybodaeth ddamcaniaethol a chymhwysol ei rhoi ar waith.
  2. Llunio cynnyrch wedi’i gyfieithu sy’n ddealladwy, drwy ddewisiadau gwybodus, gan weithio o’r Saesneg i’r Gymraeg ac i’r gwrthwyneb.
  3. Llunio beirniadaeth a thrafodaeth wybodus a rhesymedig ar brosesau a chynhyrchion cyfieithu.

Cynhelir sesiwn agoriadol yn y Brifysgol a dwy sesiwn drwy’r dydd ar ddau ddydd Sadwrn yn ystod y cwrs.