Category Archives: Apiau

Ap Geiriaduron

Mae Ap Geiriaduron yn eiriadur Saesneg-Cymraeg/Cymraeg-Saesneg sy’n caniatáu i chi chwilio all-lein am filoedd o eiriau Cymraeg a Saesneg trwy nifer o ffynonellau, gan gynnwys CysGair ac ‘Y Termiadur Addysg’.

Mae’r ap ar gael ar gyfer iOS, Android Fire OS Amazon.

ap

Nodweddion:

  • Chwilio’n sydyn mewn amser real
  • Geiriadur all-lein er mwyn chwilio ar unrhyw adeg
  • Ap cyffredinol ar gyfer Android, iPad a’r iPhone
  • Graffigau ar gyfer Retina Display
  • Iaith y sgrin ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gyda modd i newid yr iaith
  • Gallu dad-dreiglo a dad-redeg berfau i ddangos ffurf wreiddiol i eiriau
  • Nodwedd manylu er mwyn cael gwybodaeth fwy manwl ar unrhyw air
  • Chwilio gyda nodau chwilio; e.e. ei ddefnyddio fel odliadur drwy chwilio am ‘*aith’ er mwyn dangos geiriau sydd yn gorffen gyda ‘aith’
  • Cynnwys y Geiriadur CysGair gyda dros 25,000 o eiriau Cymraeg a 25,000 o eiriau Saesneg
  • Cynnwys geiriadur ‘Y Termiadur Addysg’; wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel geiriadur o dermau addysg safonol
  • Porth i chwilio’n bellach ar-lein gyda’r Porth Termau ar termau.org
  • Diweddariadau awtomatig er mwyn ychwanegu termau a geiriau newydd

Wedi’i greu gan Patrick Robertson, David Chan, Gruffudd Prys, Dewi Jones ac aelodau eraill o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.

Mae Ap Geiriaduron yn ap Prifysgol Bangor, wedi’i ran-ariannu gan gynllun Go Wales.