Category Archives: Adnoddau Eraill

Ategyn Cymreigio Porwyr

Ategyn yw hwn sy’n tynnu sylw ymwelwyr wefannau at y ffaith mai Saesneg (UDA) yw dewis iaith cynnwys ddiofyn dal eu porwyr. Mae’r ategyn hefyd yn eu helpu i’w newid i’r Gymraeg. Mae modd gosod yr ategyn yn hwylus ar unrhyw wefan er mwyn hysbysu a chynorthwyo’r nifer mwyaf bosib o ddefnyddwyr.

Mae gadael y dewis iaith cynnwys porwyr ar Saesneg (UDA) yn peri glanio yn ddieithriad ar dudalennau Saesneg gwefannau dwyieithog ac amlieithog.

Mae’r ategyn yn cynnwys gwybodaeth glir a syml ar sut yn union y gellir gosod y Gymraeg fel iaith cynnwys ddiofyn mewn gwahanol borwyr, a thrwy hynny, sicrhau eu bod yn glanio ar dudalennau Cymraeg eu hiaith os ydynt ar gael.

Yr ategyn yn hysbysu bod dewis iaith cynnwys y porwr yn Saesneg (UDA)

Mae ystadegau defnydd o wefannau’r Uned Technolegau Iaith, fel y Porth Termau a Cysill Ar-lein, yn dangos mai Saesneg (UDA) yw dewis iaith cynnwys ddiofyn porwr y mwyafrif helaeth o ddefnyddwyr. Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod gan fwyafrif y defnyddwyr dueddiad i aros ar yr ochr Saesneg ac i beidio clicio i ddefnyddio’r tudalennau Cymraeg. Mae dros 90% o ddefnyddwyr Cysill Ar-lein o fewn gwefan Cymorth Cymraeg Canolfan Bedwyr yn aros ar y dudalen Saesneg ac yn ei defnyddio yn yr iaith honno.

Yn hyn o beth, ac o bwys mawr ar gyfer adnabod lleferydd Cymraeg, mae’r ategyn yn harneisio grym technoleg gyfrifiadurol i gyfeirio ac annog defnyddwyr at yr iaith leiafrifol yn hytrach na gadael i’r dechnoleg atgyfnerthu grym a statws iaith fwyafrifol.

Am ragor o wybodaeth ewch at dudalen i ddatblygwyr

Cymreigio Firefox

Cymreigio Google Chrome

Cymreigio Microsoft Internet Explorer

Project DECHE

Digido, E-Gyhoeddi a Chorpws Electronig

Project i ailgyhoeddi llyfrau Cymraeg allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg sydd allan o brint ar ffurf e-lyfrau yw DECHE, a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ynghyd â diogelu’r cyhoeddiadau academaidd hyn i’r dyfodol a’u gwneud yn fwy hygyrch i fyfyrwyr a staff prifysgol, cyhoeddwyd yr e-lyfrau ar ffurf EPUB, MOBI (ar gyfer Kindle) a PDF. Mae’r e-lyfrau i’w gweld yn Llyfrgell y Coleg.

Hefyd, wrth ddigido’r testunau gosodwyd cynnwys y llyfrau mewn corpws o destunau ysgolheigaidd Cymraeg DECHE yn y Porth Corpora Cenedlaethol.

Daeth y project hwn i ben ddiwedd Gorffennaf 2016. Fodd bynnag, os ydych chi’n ymwybodol o lyfrau Cymraeg ysgolheigaidd sydd allan o brint, ac y byddai’n fuddiol eu cael ar ffurf e-lyfrau i fyfyrwyr y Coleg Cymraeg, rhowch wybod i ni. Rydyn ni’n dal yn awyddus i gasglu rhestr o lyfrau posibl i’w digido ar gyfer project pellach yn y dyfodol.

Gemau Iaith

Mae’r Uned Technolegau Iaith wedi creu nifer o gemau iaith. Mae arbenigedd yr Uned ym maes ieithyddiaeth gyfrifiadurol wedi bod yn greiddiol wrth ddatblygu’r gemau hyn.  Disgrifir y gemau gwahanol isod.

Ieithgi

Glywsoch chi erioed y gair lobjoryn? Wyddoch chi beth yw e? Potes yn cynnwys cig, maip a chennin a fwyteid gan y werin yn absenoldeb tatws? Neu unigolyn a ddisgrifid, cyn mabwysiadau’r system fetrig, fel un nad oedd yn llawn llathen?

Dyma un o gwestiynau dwys Ieithgi. Chwe gêm iaith ar wefan y BBC yw’r rhain, gan gynnwys croeseiriau, ‘hangman’, dyfalu’r ddihareb,  a rhoi Cymru yn ei lle. Mae pob un wedi cael ei gynllunio ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl. Os hoffech chi roi sialens i’ch ymennydd, cerwch amdani! 

 RaW

Rydych chi’n sicr o fod wedi treiglo wrth siarad Cymraeg, ond ydych chi wedi treiglo a chwarae rygbi ar yr un pryd? Mae gêm treiglo RaW Cymru’n rhoi cyfle i chi chwarae yn erbyn yr Alban ac achub y cochion gyda’ch sgiliau treiglo. CAIS!

Detholiad o gemau iaith Cymraeg syml ar wefan y BBC yw’r rhain, ac maent wedi’u hanelu at ddefnyddwyr sydd â llai o hyder yn eu Cymraeg. (Gemau rhif 1, 3, 5 a 7 yn unig).