TILT Cymraeg – Magu Hyder Uwch

Bwriad y modiwl yw meithrin hyder pellach yn y sgiliau sylfaenol sef siarad, darllen ysgrifennu a gwrando, ond hefyd ceisir adeiladu arnynt a’u datblygu ymhellach.  Rhagwelir efallai y bydd rhai myfyrwyr yn dilyn y modiwl nad ydynt wedi astudio’r Gymraeg ers peth amser yn yr ysgol.  Felly, rhoddir cryn sylw i adolygu patrymau a chystrawennau ar lafar er mwyn iddynt allu cyfathrebu yn weddol rhwydd ac ennill hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Yn yr un modd bwriedir canolbwyntio ar Gymraeg mwy ffurfiol trwy edrych ar lythyrau a ffurflenni perthnasol. Canolbwyntir hefyd ar feithrin sgiliau ysgrifennu sylfaenol sy’n berthnasol i’r gweithle. Datblygu sgiliau gwrando a deall yn gyffredinol.

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd myfyrwyr wedi cyrraedd lefel B1 ar y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin, Graddfeydd Asesu Iaith, ac yn gallu cynhyrchu iaith glir, fanwl gywir a strwythuredig ar rai pynciau, gan ddangos gafael cadarn ar gystrawennau a chysyllteiriau.

Amser Cyswllt: 24  o oriau.