TILT Sbaeneg Rhagarweiniol

Nod y modiwl yw cyflwyno Sbaeneg i ddysgwyr a fydd yn cael eu cyflwyno i’r iaith am y tro cyntaf.

Seilir y cwrs ar ddulliau cyfathrebu ac mae’n helpu’r myfyrwyr i ddatblygu’r holl sgiliau iaith allweddol (darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando) gyda phwyslais arbennig ar y siarad, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio’r iaith yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol a phroffesiynol.

Erbyn diwedd y cwrs bydd y myfyrwyr yn cyrraedd lefel A1 Torri Tir Newydd fel y’i diffinnir gan y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin, Graddfeydd Asesu Iaith.

Oriau cyswllt: 24 awr.