Category Archives: Technoleg Cyfieithu

CATcymru

Ariannwyd y project arddangos CATcymru drwy’r cynllun A4B o gronfa ERDF yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a bu’n weithredol rhwng 2009 a 2011. Ei ddiben oedd dangos a hybu’r defnydd o dechnoleg cyfieithu o fewn y diwydiant cyfieithu yng Nghymru a throsglwyddo gwybodaeth o ymchwil a datblygu blaengar yn y maes hwn o academia i ddiwydiant. Dangosodd sut y gall y defnydd o offer addas wella ansawdd a chyflymder prosesau cyfieithu.

Beth yw CAT?

Technoleg Cyfieithu (CAT) yw’r holl adnoddau cyfrifiadurol sy’n gallu hwyluso gwaith cyfieithu. Mae’n cynnwys:

  • Meddalwedd cof cyfieithu
  • Adnoddau terminolegol a geirfaol
  • Rhag-gyfieithu awtomatig
  • Offer gwirio iaith
  • Offer dilysu fformatau ffeil
  • Systemau rheoli llif gwaith a cyfrifo

Beth gyflawnodd y project?

  • Cynhyrchu adroddiad “Gwell offer technoleg gwybodaeth ar gyfer y Diwydiant Cyfieithu yng Nghymru: Arolwg dadansoddol” (gweler isod)
  • Paratoi arddangosiadau eglur ar-lein
  • Cynnal gweithdai i fusnesau a chyfieithwyr unigol ar bynciau oedd yn cynnwys:
    • Technoleg Cyfieithu
    • Codau Iaith a Localau
    • Hollti Cofion Cyfieithu
    • Torri Costau a Gwella Canlyniadau
    • Cyfieithu a Drafftio Dwyieithog
    • Creu Geirfaon Cwmni
    • Cyweiriau Iaith
  • Cynnal Cynhadledd Technoleg Cyfieithu a’r Economi Ddigidol
  • Cyflwyniadau yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 a chynhadledd Cyfieithwyr Cymru
  • Creu canllawiau ar gyfer rheoli gwefannau dwyieithog ac amlieithog
  • Creu Porth Termau cenedlaethol ar y We
CATcymru_AdroddiadTerfynol_HE06fsp_CY

 

RheoliGwefannauDwyieithog_ManagingMultilingualWebsites_CY_EN

Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg

Nod project Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg yw gosod y sylfeini ar gyfer amrediad o dechnolegau cyfathrebu yn y Gymraeg, gan gynnwys trawsgrifio, rheoli teclynnau, a chyfieithu lleferydd i leferydd. Y bwriad yw ysgogi datblygiad pecynnau meddalwedd a gwasanaethau Cymraeg newydd, a phrif-ffrydio’r Gymraeg mewn pecynnau cyfathrebu ” rhyngrwyd y pethau”, meddalwedd cwestiwn ac ateb, ac amgylcheddau amlieithog.

Bydd y project yn gosod y sylfeini ar gyfer galluogi siarad Cymraeg â’ch set deledu, holi cwestiynau Cymraeg i’ch ffôn clyfar, a chael yr ateb yn ôl ar lafar yn Gymraeg hefyd.

Ariannwyd y project gan Lywodraeth Cymru drwy eu Cronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg ac S4C.

Allbynnau

Adroddiad “Tuag at Gynorthwyydd Personol Deallus Cymraeg”

Gwasanaeth API ar-lein cyfieithu peirianyddol

Demo Cyfieithu Peirianyddol

System Adnabod Lleferydd Cymraeg ar sail Julius

Nodyn Cyngor

NODYN CYNGOR AR GYFIEITHU PEIRIANYDDOL AC OFFER CYFIEITHU AR GYFER RHEOLWR A CHOMISIYNWYR CYFIEITHU

Mae cyfieithu o un iaith ddynol i’r llall yn waith sy’n gofyn am sgiliau arbennig iawn, ac mae’n waith hanfodol ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol mewn byd amlieithog. Mae cyfieithwyr proffesiynol heddiw yn gweithio mewn amgylchedd sy’n dibynnu’n drwm ar gyfrifiaduron, ac mae llawer o offer ar gael i’w cynorthwyo gyda’u llif gwaith, eu cywirdeb a’u cyflymder wrth ddarparu gwasanaethau cyfieithu.

Y GWAHANOL FATHAU O OFFER CYFIEITHU

Caiff rhain eu grwpio gyda’i gilydd weithiau a’u galw yn Offer CAT (Cyfieithu â Thechnoleg), neu ‘Focs Tŵls y Cyfieithydd’. Profwyd fod offer CAT yn gwella cysondeb wrth gyfieithu ac yn cynorthwyo cyfieithwyr i fod yn fwy cynhyrchiol, gan ostwng pris cyfieithu ar yr un pryd. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod rheolwyr yn deall y gwahanol fathau o offer sydd ar gael, beth all pob un ei wneud, a sut maent wedi’u cynllunio i helpu, yn hytrach na chymryd lle, cyfieithwyr dynol. Mae offer cyfieithu yn cynnwys:
• Gwirwyr sillafu a gramadeg (e.e. gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg Cysill, a’r gwirydd sillafu Microsoft Word)
• Geiriaduron, geirfaon a thermiaduron technegol, nail ai all-lein (e.e. y compendiwm Cysgeir yn Cysgliad, yr ap ffôn Geiriadur ar gyfer iOS ac Android) neu ar-lein (e.e. y Porth Termau Cenedlaethol, Geiriadur yr Academi ar-lein)
• Systemau llif gwaith cyfieithu, sy’n cynorthwyo prosesu, tracio, dosbarthu, archifo ac mewn rhai achosion bilio’r projectau cyfieithu
• Meddalwedd cof cyfieithu, e.e. Trados, Déjà Vu a Wordfast, sy’n storio fersiynau gwreiddiol a chyfieithiadau dogfennau a gyfieithwyd yn barod, gan alw yn ôl segmentau sy’n cyfateb yn llawn neu yn rhannol i arbed gorfod cyfieithu’r un frawddeg neu segment eto
• Cyfieithu peirianyddol, lle mae’r cyfrifiadur yn cyfieithu’n awtomatig heb unrhyw fewnbwn dynol. Ymhlith enghreifftiau o’r dechnoleg hon mae Google Translate a Bing Translator, a cheir nifer o rai eraill sy’n cynnig cyfieithu am ddim ar y we. Fodd bynnag gall y cyfieithiadau hyn fod yn anghywir ar y gorau, ac ar eu gwaethaf gallant fod yn enllibus, yn dramgwyddus neu’n beryglus.
• Systemau cymysg, e.e CyfieithuCymru/TranslateWales, sy’n cyfuno nifer o’r nodweddion uchod, gan gynnig un pwynt canolog i’r swyddfa gyfieithu.

CYFLYMU A GWELLA CYFIEITHU DRWY DECHNOLEG

Mae’r holl offer cyfieithu hyn yn ceisio arbed amser a gwella ansawdd y cyfieithu. Er enghraifft, mae geiriaduron electronig, sy’n hygyrch gydag un clic o gyfrifiadur y cyfieithydd, yn arbed amser drwy beidio agor a phori drwy eiriadur papur, a gall gwirwyr sillafu adnabod gwallau teipio yn ogystal â chamgymeriadau bach eraill mewn testunau ysgrifenedig, a thrwy hynny gynorthwyo’r broses brawfddarllen. Mae systemau llif gwaith cyfieithu yn arbed llawer o amser gweinyddol, yn ogystal â gwella gallu’r sefydliad i gasglu ystadegau ar ei weithgaredd cyfieithu. Fodd bynnag, gwnaed yr arbedion mwyaf yn y broses gyfieithu yn y blynyddoedd diweddar drwy fabwysiadu meddalwedd cof cyfieithu, yn aml wedi’u hintegreiddio gydag offer eraill mewn system gymysg sy’n darparu popeth sydd ar gyfieithydd ei eisiau yn yr un lle.

Gall fod offer ar gael i’r cyfieithydd yn unigol ar ei gyfrifiadur ei hun, neu, yn gynyddol, ar rwydwaith lle gall rannu cofion cyfieithu ac ati gyda’i gydweithwyr. Mae llawer o fanteision i rwydweithio, gan gynnwys y gallu i rannu geirfaon, cofion cyfieithu, ac adnoddau eraill. Gellir cael mynediad at yr adnoddau yn fewnol ar fewnrwyd cwmni, neu yn allanol, dros y we neu ar ‘gwmwl’ sy’n ddefnyddiol i roi gwaith cyfieithu allan i asiantaethau cyfieithu.

YSTYRIAETHAU DIOGELWCH

Er gwaethaf buddiannau cadarnhaol defnyddio technoleg cyfieithu, mae angen i reolwyr cyfieithu fod yn ymwybodol o’r peryglon a’r maglau y mae angen iddynt eu hosgoi wrth ddefnyddio’r dechnoleg hon.
Gall materion diogelwch gynnwys storio gwybodaeth sensitif, a’r angen i gydymffurfio gyda’r Ddeddf Diogelu Data a deddfwriaeth debyg. Mae cofion cyfieithu yn storio dogfennau yn eu ffurf wreiddiol ac ar ffurf cyfieithiad ohonynt, ac felly mae angen gofal wrth eu defnyddio. Gellir ychwanegu enwau pobl, cyfeiriadau a nodweddion eraill sy’n peri adnabod unigolion yn dilyn y broses gyfieithu, gan alluogi storio llythyrau pro forma ac ati mewn systemau cof cyfieithu heb gyfaddawdu ar gyfrinachedd. Fodd bynnag, ni ddylai’r dogfennau mwyaf sensitif gael eu sortio mewn systemau cof cyfieithu heb fod ganddynt lefel uchel iawn o amgryptio. Mae lletya systemau o’r fath ar weinyddion lleol yn rhoi lefel ychwanegol o ddiogelwch, neu os defnyddir system wedi’i lleoli yn y cwmwl, mae’n bwysig sicrhau fod y gweinyddion wedi’u lleoli yn Ewrop, lle maent yn ddarostyngedig i ddeddfau cyfrinachedd yr Undeb Ewropeaidd, yn hytrach na rhanbarthau daearyddol eraill megis UDA, lle mae’r llywodraeth yn medru mynnu gwybodaeth gan ddarparwyr gweinyddion. Sylwer fodd bynnag fod yr Unol Daleithiau wedi herio’r hawl i gyfrinachedd ar weinyddion yn Ewrop mewn achosion lle mae cwmni wedi’i leoli yn UDA, a fod hwn yn bwnc cymhleth sy’n dal i ddatblygu.

Ni ddylid defnyddio gwasanaethau cyfieithu peirianyddol ar gyfer cyfieithu deunydd sensitif. Mae’r testunau sy’n cael eu mewnbynnu i’r systemau hyn hefyd yn cael eu storio ar weinyddion, fel arfer y tu hwnt i reolaeth y cwsmer. Gall eraill gael mynediad atynt, a gallai’r wybodaeth sensitif ymddangos unwaith eto mewn testun wedi’i gyfieithu.

CYFIEITHU PEIRIANYDDOL A MATERION ANSAWDD

Hyd yn hyn nid yw cyfieithiadau sydd wedi’u cynhyrchu gan beiriant yn berffaith rhwng unrhyw bâr o ieithoedd. Tueddant i fod yn fwy cywir os ydynt mewn parth cyfyngedig, e.e. rhagolygon y tywydd, lle mae cyfyngiadau ar natur y pwnc dan sylw. Gall cyfieithu awtomatig gan beiriant fod yn dderbyniol ar gyfer bras gyfieithu, h.y. lle mai diben y cyfieithiad yw rhoi syniad cyffredinol am y cynnwys i rywun sy’n methu deall y wybodaeth yn yr iaith wreiddiol. Fodd bynnag, nid yw cyfieithu peirianyddol yn dderbyniol i gymryd lle cyfieithwyr dynol lle mae’r cyfieithiad wedi’i fwriadu at ddefnydd swyddogol neu gyhoeddus. Yn y gorffennol, cafwyd penawdau yn y wasg oherwydd camgyfieithiadau chwerthinllyd neu rai sydd wedi peri embaras mawr, a gallant hefyd beri i gwrs cyfiawnder gael ei wyrdroi. Mae hyn yn rhoi enw drwg i gyrff sy’n ceisio arbed arian drwy ddefnyddio cyfieithu peirianyddol.

Fodd bynnag, mae’n dderbyniol defnyddio cyfieithu peirianyddol law yn llaw gydag ôl-gyfieithu dynol, ac mae modd ymgorffori hyn o fewn y llif gwaith cof cyfieithu. Yn y sefyllfa hon, ni fydd y cyfieithydd byth yn wynebu segment gwag lle nad oes cyfieithiad yn cael ei gynnig am y testun gwreiddiol, gan y bydd naill ai segment sy’n cyfateb yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn bodoli y cof cyfieithu, a/neu bydd cyfieithiad awtomatig yn cael ei arddangos, sydd wedyn yn medru cael ei drin fel cyfatebiaeth rannol, er mwyn ei olygu ymhellach. Mae’r cyfieithydd felly yn datblygu yn ôl-olygydd, gan arbed amser ac ymdrech, yn dibynnu ar ansawdd y cyfieithu awtomatig a’r parth pwnc penodol. Gall fod angen hyfforddiant ychwanegol ar y cyfieithydd i ddysgu sgiliau ychwanegol fel ôl-olygydd. Argymhellir rhaglen barhaus o hyfforddiant i ddiweddaru gwybodaeth y cyfieithydd am ddatblygiadau technolegol newydd, fel rhan o raglen datblygiad proffesiynol y cyfieithydd, a bydd hyn yn gymorth i gael y gorau allan o’r dechnoleg ddiweddaraf.

Delyth Prys

Uned Technolegau Iaith
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor

Tachwedd 2014

Demo Cyfieithu Peirianyddol

[iframe_loader width=”920px” height=”370px” frameborder = “0” longdesc=”” marginheight=”0″ marginwidth=”0″ name=”” click_words=”” click_url=”” scrolling=”auto” src=”http://www.cysgliad.com/cyfieithyn/mt/IFrame-Default.aspx”]

Hyfforddwyd y system cyfieithu beirianyddol hon gyda rhannau o gorpws cyfochrog cofnod y Cynulliad. Mae modd chwilio’r corpws am destunau penodol o’n wefan Porth Corpora Bangor

Mae’r cyfieithu peirianyddol hwn yn rhan o’n system gyfieithu ar-lein newydd ar gyfer cyfieithwyr. Mae’n cynnwys cof cyfieithu, system rheoli llif gwaith, yn ogystal â nodweddion ieithyddol fel gwirio sillafu a gramadeg Cysill.

O fewn yr amgylchedd cyfieithu ar-lein newydd, mae’r cyfieithydd yn cyfieithu fesul segment. Wrth weithio, caiff awgrymiadau eu cynnig gan y cof cyfieithu a’r cyfieithu peirianyddol, ac mae’r cyfieithydd yn rhydd i’w defnyddio, i’w golygu, neu i’w hanwybyddu.

Mae’r system ar waith yn llwyddiannus yn fewnol gan Uned Gyfieithu Canolfan Bedwyr ac aelodau staff Prifysgol Bangor (gweler https://cyfieithu.bangor.ac.uk) ers mis Medi 2012 ac wedi bod o gymorth mawr i hwyluso dwyieithrwydd yn y Brifysgol.

This machine translation system was trained with sections from the National Assembly record of proceedings parallel corpus. You can search the corpus for any particular text on Corpus portal website

This machine translation engine is part of our new online translation system for human translators. It consists of a translation memory, work flow management as well as linguistic features such as the spelling and grammar checking from Cysill.

In the new online translation system, the translator translates segment by segment. The system provides suggestions at each segment from the translation memory and the machine translation, allowing the human translator to decide whether to use, edit or ignore.

The system has been succesfully used internally by Canolfan Bedwyr’s Translation Unit as well as Bangor University staff (see https://translate.bangor.ac.uk) since September 2012 and has been of great benefit in facilitating bilingualism within the University.

CyfieithuCymru

Rhaglen gyfieithu gyflawn ar gyfer cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yw CyfieithuCymru. Mae’n gweithio “yn y cwmwl”, ac felly nid oes angen llwytho meddalwedd i lawr i gyfrifiaduron unigol cyfieithwyr. Caiff ei thrwyddedu’n fasnachol gan Brifysgol Bangor.

Mae iddi ddwy ran:

Rheolyn
Amgylchedd ar-lein ar gyfer rheoli dogfennau sydd i’w cyfieithu. Mae’n galluogi cleientiaid i gyflwyno dogfennau sydd angen eu cyfieithu drwy lwytho dogfen i fyny i wefan. Yna, gall gweinyddwr oruchwilio trosglwyddo’r gwaith hwnnw i gyfieithydd penodol. Wedi cwblhau’r cyfieithu, gall y cyfieithydd lwytho’r cyfieithiad gorffenedig i fyny i’r wefan er mwyn i’r cleient ei gyrchu. Yn ogystal â hwyluso’r gweinyddu, golyga’r broses hon y caiff yr holl waith cyfieithu a weinyddir trwy Rheolyn (gan gynnwys y testun gwreiddiol yn ogystal â’r cyfieithiad) ei archifo ar weinyddion diogel pwrpasol. Mae hyn hefyd yn hwyluso cynhyrchu ystadegau am faint o waith o wahanol fathau sydd wedi mynd drwy’r system mewn cyfnod penodol, ac felly yn cynorthwyo i ddeall a mesur y llif gwaith yn well.

Cyfieithyn
Rhyngwyneb cyfieithu ar-lein ar gyfer cyfieithwyr yw Cyfieithyn. Gall integreiddio yn uniongyrchol gyda Rheolyn. Mae’n galluogi cyfieithwyr i gyfieithu’r ddogfen fesul brawddeg neu segment mewn rhyngwyneb pwrpasol. Mae hwn yn dangos awgrymiadau o blith cyfieithiadau tebyg y cyfieithydd a’i dîm, awgrymiadau gan beiriant cyfieithu peirianyddol Saesnes i Gymraeg, nodweddion gwirio sillafu a gramadeg integredig gan Cysill, a’r gallu i lwytho gwahanol eirfaon pwrpasol i gynorthwyo’r cyfieithydd.

Os am ragor o fanylion am y system, danfonwch e-bost at d.prys@bangor.ac.uk.

 

System Gyfieithu Prifysgol Bangor

Datblygodd yr Uned Technolegau Iaith y system hon yn unswydd ar gyfer gwasanaeth cyfieithu mewnol Prifysgol Bangor, gyda chydweithrediad yr Uned Gyfieithu.

Amgylchedd ar-lein ar gyfer hwyluso rheoli dogfennau a chyfieithu ydyw. Gall aelodau staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor gyflwyno gwaith i’w gyfieithu i’r wefan drwy lwytho dogfen i fyny. Yna, gall gweinyddwr y system oruchwilio trosglwyddo’r gwaith hwnnw i gyfieithydd penodol sy’n gallu cyfieithu’r ddogfen fesul brawddeg mewn rhyngwyneb pwrpasol ar y wefan sy’n cynnwys awgrymiadau gan gof cyfieithu, cyfieithu peirianyddol a geirfaon, a gwirio sillafu a gramadeg gan Cysill. Mae’r system yn galluogi’r cyfieithydd i anfon y gwaith yn ôl yn unswydd at y sawl a archebodd y gwaith.

System Gyfieithu