Gemau Iaith

Mae’r Uned Technolegau Iaith wedi creu nifer o gemau iaith. Mae arbenigedd yr Uned ym maes ieithyddiaeth gyfrifiadurol wedi bod yn greiddiol wrth ddatblygu’r gemau hyn.  Disgrifir y gemau gwahanol isod.

Ieithgi

Glywsoch chi erioed y gair lobjoryn? Wyddoch chi beth yw e? Potes yn cynnwys cig, maip a chennin a fwyteid gan y werin yn absenoldeb tatws? Neu unigolyn a ddisgrifid, cyn mabwysiadau’r system fetrig, fel un nad oedd yn llawn llathen?

Dyma un o gwestiynau dwys Ieithgi. Chwe gêm iaith ar wefan y BBC yw’r rhain, gan gynnwys croeseiriau, ‘hangman’, dyfalu’r ddihareb,  a rhoi Cymru yn ei lle. Mae pob un wedi cael ei gynllunio ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl. Os hoffech chi roi sialens i’ch ymennydd, cerwch amdani! 

 RaW

Rydych chi’n sicr o fod wedi treiglo wrth siarad Cymraeg, ond ydych chi wedi treiglo a chwarae rygbi ar yr un pryd? Mae gêm treiglo RaW Cymru’n rhoi cyfle i chi chwarae yn erbyn yr Alban ac achub y cochion gyda’ch sgiliau treiglo. CAIS!

Detholiad o gemau iaith Cymraeg syml ar wefan y BBC yw’r rhain, ac maent wedi’u hanelu at ddefnyddwyr sydd â llai o hyder yn eu Cymraeg. (Gemau rhif 1, 3, 5 a 7 yn unig).