Manylion Technegol Ategyn Cymreigio Porwyr

Mae modd cynnwys yr ategyn o fewn eich gwefan drwy ychwanegu’r llinell ganlynol o fewn HTML eich gwefan :

[html]
<!– Ategyn Cymreigio Porwyr –>
<script type="text/javascript" language="javascript" src="http://techiaith.bangor.ac.uk/cymreigio-client/cymreigioporwyr/cymreigioporwyr.nocache.js"></script>
<!—————————–>
[/html]

Cod Ffynhonnell

Mae cod ffynhonnell yr ategyn ar gael hefyd wedi ei drwyddedu â thrwydded BSD. Mae’r ategyn wedi ei ddatblygu gan ddefnyddio Google Web Toolkit a C#/ASP.NET

Cliciwch yma i lwytho’r cod Google Web Toolkit i lawr.

Cliciwch yma i lwytho’r cod ASP.NET i lawr.

Dyma’r cod ffynhonnell syml ar gyfer ei ddarparu fel ategyn WordPress. Sylwer, nid yw’r ategyn yn cael ei gynnwys o fewn tudalennau Saesneg.

[php]
<?php
/*
Plugin Name: Cymreigio Porwyr
Description: Ategyn syml sy’n synhwyro ffurfwedd ieithyddol porwyr
Version: 1.0
Author: Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor
Author URI: http://techiaith.bangor.ac.uk
License: BSD
*/

function insert_cymreigio_gwtjs(){

$qryStr = $_SERVER[‘QUERY_STRING’];
parse_str($qryStr, $qryStrArray);

if ($qryStrArray[‘lang’] == null) {

echo "
<!– Ategyn Cymreigio Porwyr –>
<script type=’text/javascript’ language=’javascript’ src=’http://techiaith.bangor.ac.uk/cymreigio-client/cymreigioporwyr/cymreigioporwyr.nocache.js’></script>
<!– ————– –>
";
}
}

add_action(‘wp_head’,’insert_cymreigio_gwtjs’);

?>

[/php]

Beth yw Gosodiad Iaith Cynnwys?

Mae rhai gwefannau ar gael yn ddwyieithog neu’n amlieithog sy’n golygu y gall cyfeiriad gwe e.e. http://www.bangor.ac.uk, gyfeirio at dudalen gartref sy’n Gymraeg neu’n Saesneg. Er mwyn hwyluso penderfynu ym mha iaith y dylid darparu’r cynnwys, mae porwyr yn caniatáu i chi nodi pa ieithoedd rydych yn eu defnyddio i ddarllen ar y we ac i’w rhestru yn nhrefn eich dewis. Mae porwyr wedyn yn cyfleu’r dewis iaith o fewn pob cais ar gyfer cynnwys pob cyfeiriad gwe. Gweler http://www.w3.org/Protocols/rfc2616/rfc2616-sec14.html#sec14.4 am wybodaeth dechnegol bellach.