Yr Uned Technolegau Iaith wedi ennill ardystiad ISO 27001:2013
Mae diogeledd seibr yn dod yn bwysicach bob dydd wrth i ymosodiadau ar ein data cyfrifiadurol amlhau. Yr Uned Technolegau Iaith yw’r uned gyntaf ym Mhrifysgol Bangor, ac unrhyw brifysgol yng Nghymru, i ennill ardystiad ISO 27001. Mae hwn yn safon rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer rheoli diogeledd gwybodaeth sy’n amlinellu gofynion penodol ar gyfer creu system rheoli diogeledd gwybodaeth. Bellach bydd awdurdodau cyhoeddus ac eraill yng Nghymru yn gallu rhoi cynnyrch yr Uned megis yr ategyn Vocab [https://techiaith.cymru/cwmwl/ategion/vocab/] yn hyderus ar eu gwefannau heb ofni ymosodiadau o’r tu allan.
Diolch i Wasanaethau Digidol y brifysgol am eu cymorth ac i ITGoverance am eu gwasanaeth ymgynghori gwych a’u harweiniad drwy’r broses ac i Alcumus ISOQAR am gynnal proses awdit drylwyr a llwyddiannus.
Leena a Preben yn dod i’r brig yng nghystadleuaeth ryngwladol Mozilla
Llongyfarchiadau mawr i Preben Vangberg a Leena Farhat, aelodau staff yr Uned Technolegau Iaith a myfyrwyr doethuriaeth Prifysgol Bangor sydd wedi ennill cystadleuaeth ryngwladol un o gwmnïau mawr y byd digidol, Mozilla Common Voice.
Ym mis Mehefin, 2022 cyhoeddodd Mozilla eu cystadleuaeth ‘Our Voices’. Y dasg oedd dylunio model adnabod lleferydd gyda’r nod o annog amrywiaeth a chynhwysiant. Ar ôl derbyn ceisiadau o bedwar ban byd, mae Mozilla wedi cyhoeddi’r pedwar enillydd ym mhob categori, gyda Preben a Leena yn eu plith.
Mae eu model buddugol wedi’i greu ar gyfer iaith leiafrifol o’r Swistir, Romansh a dau o brif dafodieithoedd yr iaith (Sursilvan a Vallader). Cafodd y model ei ganmol am ei berfformiad, cyfradd gwall isel a’i gyfraniad gwerthfawr i iaith llai ei hadnoddau.
Ar ôl graddio gyda MSc mewn Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, mae Preben a Leena bellach yn gweithio fel ymchwilwyr cynorthwyol rhan amser yn yr Uned Technolegau Iaith ac yn gysylltiedig gyda’u gweithgaredd Common Voice Cymraeg. Mae pawb yn yr Uned yn hynod falch o’u llwyddiant!
Darllenwch mwy: https://foundation.mozilla.org/en/blog/announcing-mozillas-common-voice-our-voices-competition-winners/
Swydd Terminolegydd Cynorthwyol Dros Dro
Cyfle cyffrous arall i ymuno gyda’n tîm Technolegau Iaith, y tro yma i arbenigo Termau Coleg Cymraeg Mwy o fanylion ar gael yma.
Seminar Ymchwil 27 Hydref 2022 – “Termau Hil ac Ethnigrwydd”
Cynhelir yr ail seminar yn ein cyfres seminarau Iaith a Thechnolegau Iaith misol (2022-23) am 3yh ddydd Iau y 27ain o Hydref yn ystafell seminar Duncan Tanner (39 Ffordd y Coleg).
Y siaradwr gwadd fydd Yr Athro Delyth Prys o’r Uned Technolegau Iaith, a teitl ei chyflwyniad fydd “Termau Hil ac Ethnigrwydd”. Mae’r Athro Delyth Prys yn gadeirydd grŵp Llywodraeth Cymru sy’n edrych ar dermau addas i drin materion ym ymwneud â hil ac ethnigrwydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r grŵp yn cynnwys siaradwyr Cymraeg o wahanol gymunedau ethnig yng Nghymru ac yn rhoi pwyslais ar ddefnyddio termau mae aelodau o’r cymunedau hynny yn hapus gyda nhw. Bydd y seminar hwn yn gyfle i drafod rhai o’r termau dan sylw a deall mwy am y broses ymgynghori a phenderfynu ar dermau penodol. Cynhelir y seminar yn Gymraeg ac mae croeso arbennig i ddysgwyr ymuno â ni.
Cofiwch hefyd am yr awr goctels rhwng 4 a 5 o’r gloch yn dilyn y digwyddiad. Croeso i bawb i hwnnw hefyd, mae’n ffordd dda o rwydweithio, hyd yn oed os nad ydych chi wedi gallu dod i’r seminar cyn hynny!
Seminar Ymchwil 29 Medi 2022 -‘“BU-TTS: An Open-Source Bilingual Welsh-English, Text-to-Speech Corpus.”
Bydd ein cyfres seminarau Iaith a Thechnolegau Iaith misol yn ailgychwyn am y flwyddyn academaidd newydd am 3yh ddydd Iau y 29ain o Fedi yn ystafell seminar Duncan Tanner (39 Ffordd y Coleg). Nodwch y newid diwrnod o ddydd Gwener olaf y mis i ddydd Iau olaf y mis.
Y siaradwr gwadd fydd Stephen Russell o’r Uned Technolegau Iaith a theitl ei gyflwyniad fydd “BU-TTS: An Open-Source Bilingual Welsh-English, Text-to-Speech Corpus”
Traddodir y cyflwyniad yn Saesneg ond croesewir gwestiynau a thrafodaeth ddwyieithog yn dilyn hynny.
Cofiwch hefyd am yr awr goctels rhwng 4 a 5 o’r gloch yn dilyn y digwyddiad. Croeso i bawb i hwnnw hefyd, mae’n ffordd dda o rwydweithio, hyd yn oed os nad ydych chi wedi gallu dod i’r seminar cyn hynny!
Symposiwm Academaidd Technolegau Iaith Cymru 2022
Cofrestru ar agor ar gyfer Symposiwm Academaidd Technolegau Iaith Cymru 2022 https://symposiwm.bangor.ac.uk/cofrestru
Symposiwm fywiog o’n blaenau, i’w hagor gan Yr Athro Georg Rehm @DFKI
Siaradwyr gwadd rhyngwladol ac o Gymru. I weld yr amserlen ewch i
https://symposiwm.bangor.ac.uk/rhaglen
Iaith a Technoleg yn Cymru : Cyfrol I
Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfrol gyntaf Iaith a Technoleg yng Nghymru. Mae’n cynnwys papurau gan nifer o academyddiol blaenllaw, gan roi trosolwg o ymchwil diweddar mewn Technolegau Iaith yng Nghymru.
Ewch i http://techiaith.cymru/llyfrau/ i weld yr e-lyfr hwn. Ceir fersiwn Saesneg ohono hefyd ar http://techiaith.cymru/books/ .
Ysgoloriaeth MRes KESS
Cyfle gwych am ysgoloriaeth MRes gyda chriw’r Uned Technolegau Iaith a’r Adran Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.Mwy o fanylion ar gael yma.
Swydd Datblygwr Cyfieithu Peirianyddol ar Gael
Cyfle cyffrous arall i ymuno gyda’n tîm Technolegau Iaith, y tro yma i arbenigo ar gyfieithu peirianyddol Mwy o fanylion ar gael yma.
INTERNIAETH PRIFYSGOL BANGOR
Ydych chi’n fyfyriwr ym Mangor eisiau cyfle i wneud interniaeth gyflogedig gyda’r Uned Technolegau Iaith?
Mae 2 intreniaeth ar gael gennym ni eleni:
1. Helpu ar Y Termiadur Addysg (manylion yma )
2. Gwella isdeitlo awtomatig fideos Cymraeg (manylion yma )
Mae mwy am y cynllun i gael yma neu e-bostiwch d.prys@bangor.ac.uk am ragor o fanylion.
Swydd Terminolegydd / Terminolegydd Cynorthwyol (cyfnod mamolaeth)
Cyfle gwych i chi ymuno â chriw terminolegwyr Prifysgol Bangor: swydd dros dro cyfnod mamolaeth. Mwy o fanylion ar gael yma.
Symposiwm Academaidd & Cynhadledd Technoleg a’r Cymraeg
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein Symposiwm Academaidd Technolegau Iaith Cymru 2020 https://symposiwm2020.bangor.ac.uk/cy ar 4 Tachwedd eleni.
Hefyd, cadwch y dyddiad 26 Chwefror 2021 ar gyfer ein Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg nesaf. Gw. http://techiaith.cymru/cynadleddau/cynhadledd-2021/.
Swydd Peiriannydd Meddalwedd ar Gael
Rydym yn chwilio am beiriannydd meddalwedd ychwanegol i weithio yn yr Uned Technolegau Iaith. Dyma gyfle gwych i ymuno gyda thîm arloesol sy’n datblygu adnoddau a chydrannau technolegau iaith a lleferydd ar gyfer y Gymraeg. Mwy o fanylion ar gael yma.
Galwad am Bapurau ar Gyfer Symposiwm Technolegau Iaith
Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r alwad gyntaf am bapurau ar gyfer Symposiwm Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, 18 Medi, 2020. Dyma’r symposiwm academaidd cyntaf yn y maes ar gyfer ymchwilwyr Cymru. Mae croeso cynnes i ymchwilwyr, academyddion a myfyrwyr gyfrannu ato. http://symposiwm2020.bangor.ac.uk/cy
Ysgoloriaeth MRes KESS – Ail Hysbyseb
Oherwydd amgylchiadau arbennig cynigir unwaith eto ysgoloriaeth blwyddyn i astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil neu MRes ar y pwnc “Safoni Termau Cyfraith Teulu’n Gymraeg drwy gyfrwng Ontoleg”. Ariannir y project hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop (ESF) ac fe’i noddir hefydgan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (HM Courts and Tribunals Service) fel partner allanol y project.. Mae’r stori lawn i’w chael yma.
Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd yn anrhydeddu tri ymchwilydd o Brifysgol Bangor
Mewn seremoni arbennig i gyflwyno Anrhydeddau’r RCSLT (Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd) yn Nottingham yn ystod eu cynhadledd flynyddol fis Medi, dyfarnwyd gwobr “Giving Voice” i Delyth Prys, Dewi Bryn Jones a Stefan Ghazzali o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Mae’r stori lawn i’w chael yma.
Gweithdy Ymarferol ar y Porth Technolegau Iaith
Cynhelir gweithdy ymarferol ar sut i wneud defnydd llawn o adnoddau’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 18 Mehefin, 2019. Bydd y gweithdy yn cael ei redeg gan yr Uned Technolegau Iaith a’i phartneriaid, a chaif ei noddi gan yr ESRC drwy Gronfa Cyflymu Effaith Prifysgol Bangor.
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer datblygwyr meddalwedd, hacwyr, ieithwyr cyfrifiadurol, athrawon cyfrifiadureg, gwirfoddolwyr technoleg iaith, a phawb sy’n ymddiddori mewn defnyddio adnoddau’r Porth mewn cynnyrch cyfrifiadurol Cymraeg ac amlieithog. Mae mwy o fanylion am y gweithdy i’w cael yma.
Gellir archebu lle ar gyfer y gweithdy yma.
Ysgoloriaeth MRes KESS – Ontoleg Cyfraith Teulu a’r Gymraeg
Cynigir ysgoloriaeth blwyddyn i astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil neu MRes ar y pwnc “Safoni Termau Cyfraith Teulu’n Gymraeg drwy gyfrwng Ontoleg”.Ariannir y project hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop (ESF) ac fe’i noddir hefydgan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (HM Courts and Tribunals Service)fel partner allanol y project. Mae’r stori lawn i’w chael yma.
Ymchwil Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn dylanwadu ar yr agenda Ewropeaidd
Mae ymchwil ac adnoddau arbenigol Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr wedi derbyn sylw yn Senedd Ewrop yn ddiweddar, wrth i Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, gyfeirio mewn araith at waith yr Uned fel bod ar flaen y gad ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol. Roedd yr ASE yn cyflwyno canfyddiadau ar argymhellion y Digital Language Diversity Project (DLDP) yn eu hadroddiad ar sicrhau cyfartaledd ieithyddol mewn technoleg ddigidol. Yn dilyn yr araith gan Jill Evans ASE, gwahoddwyd pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys, a Phrif Beiriannydd Meddalwedd yr Uned, Dewi Bryn Jones, i siarad mewn cynhadledd ar dechnolegau iaith a chydraddoldeb digidol oddi fewn i Ewrop amlieithog. Mae’r stori lawn i’w chael yma.
Prifysgol Bangor yn helpu Mozilla gyda thechnoleg lleferydd Cymraeg
Mae Mozilla, y cwmni rhyngwladol o Galifornia sy’n gyfrifol am y porwr gwe Firefox, newydd lansio eu cynllun Common Voice amlieithog. Ar ôl cychwyn gyda Saesneg y llynedd, mae tair iaith newydd yn cael eu hychwanegu yn awr, sef y Gymraeg, Almaeneg, a Ffrangeg. Llwyddodd y Gymraeg i gyrraedd y brig oherwydd cymorth gan yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Mae’r stori lawn i’w chael yma.
Delyth yn ennill gwobr Womenspire
Llongyfarchiadau i Delyth Prys, pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, am ennill gwobr Adeiladu Cymru gan Womenspire. Mae’r stori lawn i’w chael yma.
Macsen yn siarad mwy
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn mynd yn fwy clyfar bob dydd. Erbyn hyn mae gan lawer o bobl yng Nghymru ddyfeisiau fel Alexa, Siri, a Google Now sy’n medru ateb cwestiynau ar lafar am y tywydd, newyddion a ffeithiau defnyddiol eraill. Maen nhw hyd yn oed yn medru ymateb i lais yn gofyn iddyn nhw gynnau’r golau, troi’r trydan ymlaen neu bethau tebyg. Yn anffodus, dim ond yn Saesneg mae’r rhain yn gweithio, ond rydyn ni gam yn nes at gael system debyg yn Gymraeg gyda Macsen, sy’n ffrwyth gwaith ym Mhrifysgol Bangor, gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Ar y dechrau roedd Macsen yn medru ymateb i orchmynion syml yn unig, ond erbyn hyn mae hefyd yn medru ateb cwestiynau eraill, a mynd i’r erthyglau mwyaf poblogaidd yn y Wicipedia Cymraeg a chael hyd i wybodaeth ddefnyddiol yno. Mae’n ddarllen allan y paragraff cyntaf o erthygl, neu benawdau’r newyddion, gan ddefnyddio llais synthetig. . Mae’r manylion llawn i’w cael yma.
Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae cyfle yn yr Uned i fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Bangor wneud interniaeth 150 awr gyda ni rhwng Chwefror a Mai 2018 yn trawsgrifio rhagor o archif sain sylweddol y BBC. Dyma gyfle gwych i rywun sydd â diddordeb mewn trawsgrifio a thechnoleg iaith ddod i ddeall mwy am y maes a gweithio mewn awyrgylch ddifyr a chyffrous. Mae’r manylion llawn i’w cael yma.
Project newydd Lleisiwr
Diolch i nawdd Llywodraeth Cymru, a chydweithio rhyngom a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, rydym newydd gychwyn ar broject newydd fydd yn creu lleisiau synthetig Cymraeg i bobl sydd ar fin colli eu lleferydd oherwydd llawdriniaeth neu gyflwr meddygol. Ceir y manylion llawn yma.
Digwyddiadau Eisteddfod
Eleni am y tro cyntaf bydd Yr Uned Technolegau Iaith yn arddangos ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth a Technoleg yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymhlith ein gweithgareddau yno byddwn yn cynnal Hacathon yn chwarae gyda’n adnoddau technoleg lleferydd drwy ddydd Sadwrn y 5ed o Awst. Bydd gennym bosau croeseiriau newydd ar dermau gwyddonol bob diwrnod, a bydd cyfle i gwrdd â Macsen, ein prototeip cynorthwyydd digidol personol Cymraeg.
Bydd Indeg Williams, deiliad ysgoloriaeth PhD KESS a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n ymchwilio i Fodelau Cyfrifiadurol o’r Gymraeg ar gyfer Prosesu Lleferydd, yn rhoi cyflwyniad ar ei gwaith ar stondin Llywodraeth Cymru am 11 fore Mawrth yr 8fed o Awst.
Dewch draw i’n gweld yn ystod yr wythnos!
2 Interniaeth pythefnos yr un BBC / Technolegau Iaith
Mae’r BBC wedi digido ei harchif sylweddol o raglenni radio Cymraeg. Ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, mae’n archwilio dulliau arloesol newydd i fynegeio’r archif drwy ddefnyddio technoleg lleferydd Cymraeg. Bydd yr interniaid yn cynorthwyo mewn astudiaeth beilot fydd yn edrych ar sampl bach o’r data. Cliciwch yma.
Seminar Rhyngwladol ar Derminoleg a Lecsicograffeg
Byddwn yn cynnal seminar rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor ar y 4 Medi ar y testun “Adnoddau ar gyfer Terminoleg a Lecsicograffeg: Yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd ei angen arnom”. Bydd gennym siaradwyr gwadd o wahanol sefydliadau terminoleg ac addysg uwch yn Ewrop. Cliciwch yma.
Technoleg Gymraeg yn Hwb i’r Economi
Cynhaliwyd ail gynhadledd Technoleg a’r Gymraeg gan yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor ar yr 20fed o Ionawr 2017, a’i dilyn gan Hacio’r Iaith ar yr 21ain. Roedd yn gyfle gwych i academyddion, arweinwyr polisi, a phobl o’r sectorau cyhoeddus a phreifat gyfarfod â’i gilydd a gweld a chlywed y datblygiadau diweddaraf ym maes technolegau digidol a’r Gymraeg. Am ragor am y gynhadledd, cliciwch yma.
Dyfarnu Gwobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog
Mae project i roi labeli rhybudd Cymraeg ar feddyginiaethau wedi ennill y wobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog yng Ngwobrau Cyrhaeddiad cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Y partneriaid yn y project oedd Uned Dechnolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr a Chanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor, ar y cyd gyda fferyllwyr Ysbyty Gwynedd. – Cliciwch yma
Dyddiad Cyhoeddi: 23/11/16
Y Chwyldro Digidol, y Gymraeg a’r Eisteddfod Genedlaethol
Bydd Yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn cynnal sesiynau difyr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, brynhawn Llun yr 2ail o Awst ar Stondin Prifysgol Bangor rhwng 2 a 5 o’r gloch. Mae croeso i bawb ymuno gyda ni i weld, i drafod, i holi cwestiynau ac i gael gwydraid bach ar y diwedd.
1. Y Gymraeg ar lwyfannau digidol
Dr Cynog Prys gyda Shan Pritchard a Natalie Jones yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil PhD a noddir gan Cwmni Da ac S4C, dan raglen KESS Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd
2. Generation Beth (cyfres deledu S4C)
Trafodaeth dan gadeiryddiaeth Dr Cynog Prys gyda Phil Stead o Gwmni Da ar yr arolwg o agweddau pobl ifanc ar draws Ewrop
3. Y Dyfodol Digidol
Sesiwn gan Delyth Prys, Dr Tegau Andrews a Gruffudd Prys o’r Uned Technolegau Iaith yn dathlu’r adnoddau terminolegol diweddaraf, cyfres e-lyfrau DECHE, ac yn cyflwyno Macsen, prototeip o’r cynorthwyydd digidol Cymraeg cyntaf, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru
4. Gwin neu ddiod ysgafn i orffen y prynhawn.
Dyddiad Cyhoeddi: 25/07/2016
Ymchwilydd o Fangor yn gyd-enillydd gwobr NewsHACK y BBC
Roedd Dewi Bryn Jones o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn un o enillwyr gwobr Wynebu’r Gynulleidfa yn #newsHack: Languge Technology y BBC ar y cyd gyda BBC Cymru Fyw, BBC Connected Studio, a BBC Digital yn Llundain ar 15 ac 16 Mawrth 2016. Yr her yn y digwyddiad a drefnwyd gan y BBC News Labs oedd sut i helpu gwella newyddiaduraeth mewn amgylchedd amlieithog. Cliciwch yma
Dyddiad Cyhoeddi: 22/03/2016
Adnoddau newydd ar gyfer adnabod lleferydd Cymraeg
Yn ystod 2015-2016 bu tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn datblygu adnoddau newydd ar gyfer siarad Cymraeg gyda chyfrifiaduron. cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 18/03/2016
Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg
Fel rhan o’u sesiwn ar Arloesi ar gyfer Technolegau Iaith a’r Cyfryngau Digidol brynhawn dydd Llun yn yr Eisteddfod, bydd Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn lansio eu project newydd, Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg. cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 31/07/2015
Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol yn rhoi meddalwedd allweddol i ddatblygu technoleg yn yr iaith Gymraeg
Bydd adnoddau meddalwedd allweddol a ddisgrifir fel y blocau adeiladu ar gyfer llunio technoleg cyfrifiadurol yn y Gymraeg yn cael ei ryddhau am ddim i gwmnïau, codwyr a haciwyr iaith yn dilyn eu datblygiad gan Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor. cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 18/02/2015
Cyhoeddi Cynhadledd Trwy Ddulliau Technoleg, Prifysgol Bangor 06/03/15
Cynhelir cynhadledd i lansio Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru ym Mhrifysgol Bangor, dydd Gwener y 6ed o Fawrth, 2015. Mae’r Porth newydd yn ffrwyth project gan Yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, gyda chymorth grant gan Gronfa Technoleg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru. Agorir y gynhadledd gan yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor. cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 12/01/2015
Ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg
Mae cyfrol o bapurau a roddwyd gan saith o arbenigwyr iaith a geiriadura wedi’i chyhoeddi fel e-lyfr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar eu llwyfan e-ddysgu, Y Porth, cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 03/12/2014
Geiriadur Bangor
Mae Geiriadur Cymraeg Saesneg y BBC nôl yn fyw ar ei newydd wedd!
Pan dynnwyd Geiriadur y BBC o’u gwefan, yn sgil ymddeol eu hen feddalwedd, roedd llawer o bobl yn gweld ei golli. Er bod geiriaduron ar-lein eraill yn bodoli rhwng y Gymraeg a’r Saesneg erbyn hyn, roedd nifer o ddefnyddwyr, gan gynnwys dysgwyr, yn hoffi ei ryngwyneb syml, hawdd ei ddefnyddio. cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 19/11/2014
Terminolegwyr Bangor yn Helpu Prifysgolion De Affrica
Mae terminolegwyr o Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor wedi bod yn cynghori staff ym Mhrifysgol De Affrica, un o’r sefydliadau addysg uwch mwyaf yn y byd, ynglŷn â sut i wella eu gwasanaeth termau amlieithog i staff a myfyrwyr.
Treuliodd Delyth Prys a Tegau Andrews wythnos yn Pretoria, De Affrica, yn dilyn gwahoddiad gan Academi Ieithoedd Affrica a Gwyddoniaeth yng Ngholeg Astudiaethau Ôl-radd Prifysgol De Affrica (UNISA). cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 03/11/2014
Prif Weinidog Cymru y cyntaf i recordio’i lais ar gyfer adnodd Lleferydd Cymraeg newydd
Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, oedd y cyntaf i ymateb i apêl newydd gan Brifysgol Bangor am wirfoddolwyr i recordio’u llais er mwyn creu adnodd Adnabod Lleferydd Cymraeg newydd.
Mae systemau Adnabod Lleferydd yn bwysig ar gyfer cyfathrebu ar lafar gyda chyfrifiaduron, systemau ffôn, setiau teledu, a phob math o gyfarpar electronig arall. Er mwyn creu’r dechnoleg, mae angen recordio rhai cannoedd o bobl wahanol yn darllen testunau pwrpasol. cliciwch yma…
BBC : BBC Newyddion Cymru BBC Wales News
Dyddiad Cyhoeddi: 07/07/2014
Siaradwyr o Fri yng Nghynhadledd Terminoleg a Chyfieithu TILT
Dydd Iau y 12fed o Fehefin bydd cynhadledd undydd ar gyfer ymarferwyr a myfyrwyr cyfieithu yn digwydd ym Mhrifysgol Bangor yn gysylltiedig gyda’r rhaglen hyfforddi TILT. Ymhlith y siaradwyr gwadd yn y gynhadledd mae Anna-lena Bucher, sydd newydd ymddeol fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Canolfan Termau Llywodraeth Sweden. Hefyd yn siarad bydd Chris Cox, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Cyfieithu ISO, a Doug Lawrence, arbenigwr ar Gyfieithu a Busnes Rhyngwladol. cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 11/06/2014
Cydnabyddiaeth gan Mozilla Firefox yn San Fransisco
Llongyfarchiadau i aelodau o Uned Technolegau Iaith – David Chan a Dewi Bryn Jones yn ogystal â chyfaill – Rhoslyn Prys o Meddal.com – wrth i’w cyfraniad i greu Mozilla Firefox Cymraeg gael ei gydnabod ar gerflun yn San Fransisco. – cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 23/04/2014
Wikimedia yn cydweithio gydag Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor
Cyhoeddwyd cydweithrediad newydd rhwng y Wikimedia Foundation a Phrifysgol Bangor i alluogi’r ddau barti i rannu syniadau a phrofiad o ddatblygu offer technolegau iaith ar gyfer sefyllfaoedd amlieithog. Bydd y cydweithio yn cynnwys ymgorffori cydrannau o feddalwedd newydd CyfieithuCymru.com Prifysgol Bangor i mewn i’r feddalwedd sy’n pweru Wikipedia. – cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 21/02/2014
Datblygu system siarad â chyfrifiaduron yn Gymraeg
Mae Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor newydd gael grant gwerth £56,000 gan gronfa Technoleg a’r Gymraeg Lywodraeth Cymru a buddsoddiad gan gronfa ddigidol S4C i ddatblygu mwy ar adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg – cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 01/01/2014
Geiriadur Cymraeg ym mhobman! Lansio ap geiriaduron newydd a bysellfwrdd ffôn Cymraeg ar ben yr Wyddfa
Diolch i’r cynnydd mewn technoleg y blynyddoedd diwethaf, o heddiw ymlaen mi fydd hi’n bosib cario a defnyddio geiriadur Cymraeg i bobman. Bydd Ap Geiriaduron – sydd ar gael i’r iPhone, iPad ac Android – yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar ben yr Wyddfa er mwyn dangos pa mor gryno a defnyddiol y mae fel geiriadur i ddysgwyr, rheini, plant ac athrawon ym mhobman – cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 22/10/2012
Termau addysg ar-lein
Bydd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, yn lansio gwefan newydd Y Termiadur Addysg yng Nghaerdydd ar 22 Mawrth 2012. Bydd y wefan www.termiaduraddysg.org yn cynnwys fersiwn newydd helaethach o’r llyfr termau poblogaidd a gyhoeddwyd yn 2006, a hefyd cymorth ychwanegol i ddysgu a chwilio am dermau safonol Cymraeg ar gyfer plant ysgol a myfyrwyr colegau addysg bellach. – cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 23/03/2012
Gwaith arloesol Prifysgol yn cael ei amlygu wrth lansio’r fersiwn ar-lein o Geiriadur yr Academi
Bydd gwaith arloesol Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn cael ei amlygu wrth i Fwrdd yr Iaith Gymraeg lansio’r fersiwn ar-lein o Geiriadur yr Academi – cliciwch yma…
Dyddiad Cyhoeddi: 29/02/2012