Geiriadur Bangor

Mae Geiriadur Cymraeg Saesneg y BBC nôl yn fyw ar ei newydd wedd!

Geiriadur Bangor

Pan dynnwyd Geiriadur y BBC o’u gwefan, yn sgil ymddeol eu hen feddalwedd, roedd llawer o bobl yn gweld ei golli. Er bod geiriaduron ar-lein eraill yn bodoli rhwng y Gymraeg a’r Saesneg erbyn hyn, roedd nifer o ddefnyddwyr, gan gynnwys dysgwyr, yn hoffi ei ryngwyneb syml, hawdd ei ddefnyddio. Roedd ei  gyfuniad o eirfa cyffredinol a’r termau technegol diweddaraf hefyd yn boblogaidd iawn. Gofynnwyd i lunwyr gwreiddiol y Geiriadur, sef Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, a oedd modd iddyn nhw ei adfer, a’i gyhoeddi ar wefan y brifysgol.

Fe fu Dewi Bryn Jones a Gruffudd Prys wrthi felly yn diweddaru gwedd y geiriadur a’i nodweddion chwilio hwylus. Mae’r geiriadur yn gyfuniad o Cysgair, geiriadur cyffredinol Prifysgol Bangor, a Y Termiadur Addysg, sef geiriadur o dermau technegol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru, sy’n cael ei ddatblygu gan yr Uned Technolegau Iaith ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cyfateb i’r ap poblogaidd, sef Ap Geiriaduron yr Uned.

I ddathlu’r ffaith fod y brifysgol yn awr yn cymryd cyfrifoldeb am gynnal y geiriadur, fe’i ailenwyd yn Geiriadur Bangor. Bydd ar gael o hyn ymlaen ar http://geiriadur.bangor.ac.uk a’r gobaith yw ychwanegu nodweddion a deunydd newydd iddo o hyn allan.