Roedd SALT Cymru yn ddau broject dilynol, gyda’r cyntaf yn Astudiaeth Ddichonolrwydd a’r ail yn rhwydwaith ar gyfer cwmnïau a sefydliadau â diddordeb mewn technolegau iaith.
Ariannwyd Rhwydwaith SALT Cymru drwy’r cynllun A4B o gronfa ERDF yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a bu’n weithredol rhwng 2009 a 2011. Yn ystod y cyfnod hwn gweithiodd gyda nifer mawr o gwmnïau meddalwedd a chwmnïau yn y sector diwydiannau creadigol a chyrff eraill oedd a diddordeb mewn hybu economi Cymru drwy wella’u defnydd o’r technolegau newydd hyn. Arweiniodd hyn at sefydlu’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol lle ceir adnoddau ac offer at ddefnydd cwmnïau a datblygwyr sydd eisiau cynnwys y Gymraeg yn eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Erbyn hyn hefyd sefydlwyd Clwstwr Gallu Iaith Cymru ar LinkedIn er mwyn i bawb sydd â diddordeb mewn technolegau iaith, polisi, strategaeth a materion cysylltiedig eraill fedru cadw mewn cysylltiad â’i gilydd.
Beth yw SALT?
Mae SALT (Technolegau Iaith a Lleferydd neu Speech and Language Technologies) yn cynnwys:
- Technoleg lleferydd
(adnabod lleferydd,adnabod siaradwr, technegau testun-i-leferydd,
codio a gwella lleferydd, prosesu lleferydd amlieithog) - Mewnbwn iaith ysgrifenedig
(OCR – adnabod nodau’n optegol, adnabod llawysgrifen) - Dadansoddi, deall a chynhyrchu iaith
(gramadeg, semanteg, parsio, disgwrs a deialog) - Prosesu dogfennau
(echdynnu termau a thestun, dehongli, crynhoi) - Cyfieithu peirianyddol
(gan gynnwys cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, adalw gwybodaeth amlieithog) - Amlfoddolrwydd
(adnabod ystumiau a symud gwynebau, delweddu data testun) - Adnoddau iaith
(corpora llafar ac ysgrifenedig, lecsiconau, terminoleg) - Gwerthuso
(gwerthuso’r cyfan uchod)
Beth gyflawnodd y project?
- Creu’r rhwydwaith gyntaf erioed ym maes technolegau iaith a lleferydd yng Nghymru i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd.
- Braenaru’r tir ar gyfer ymchwil pellach y maes technolegau iaith a lleferydd yng Nghymru.
- Creu cyflwyniadau ac arddangosiadau ar-lein i dechnolegau SALT ar gyfer diwydiant Cymru.
- Cynnal seminarau i fusnesau ar wahanol agweddau o SALT.
- Cynnal sesiynnau un-i-un i gyflwyno SALT i fusnesau a thrafod ffynonellau cyllido posibl.
- Cynnal Cynhadledd Terminoleg ac Adnoddau Iaith Eraill ar gyfer Diwydiant Cymru gan gynnwys cyflwyniad gan brif derminolegydd IBM, Kara Warburton.
- Cyflwyniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2010 a chynhadledd Cyfieithwyr Cymru.
- Creu canllawiau ar gyfer rhifo Cymraeg mewn meddalwedd.
Mae rhwydwaith SALT Cymru bellach wedi’i hymgorffori yn y Clwstwr Gallu Iaith.
SALT-Cymru-_HE-06-KEP-1002_-Project-Closure-Report welsh-numerical-forms