Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r profiad Cymreig

Rydym yn rhan o broject digido ar raddfa fawr y prif ffynonellau sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf o Lyfrgelloedd, Casgliadau Arbennig ac Archifau Cymru. Cymru oedd y wlad â’r lefel uchaf o recriwtio yn y DU yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd y project yma’n cynnig casgliad digidol trefnus a chyfunol a fydd yn datgelu hanes cudd y Rhyfel Byd Cyntaf a sut y gwnaeth ddylanwadu ar bob agwedd o fywyd, iaith a diwylliant Cymru. Ar hyn o bryd mae’r ffynonellau ar wasgar ac weithiau’n anodd mynd atynt, ond maent fel casgliad yn cynnig adnodd unigryw sydd o’r diddordeb pennaf i ymchwilwyr, myfyrwyr a’r cyhoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd ein cyfraniad yn cynnwys offer cyfieithu i’r Saesneg a fydd yn rhoi mynediad am y tro cyntaf i ymchwilwyr ac i’r cyhoedd i ddeunyddiau a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn y Gymraeg.

Gwefan y project : http://cymruww1.llgc.org.uk/cy/

Trydar : @cymruww1