Bwriad y modiwl yw rhoi cyflwyniad i’r iaith Gymraeg i fyfyrwyr sy’n dangos parodrwydd i ddysgu’r Gymraeg am y tro cyntaf.
Yn y dosbarthiadau, rhoddir blaenoriaeth i feithrin sgiliau llafar yn bennaf, fel bod y myfyrwyr yn medru cynnal sgwrs elfennol at ddibenion cymdeithasol, academaidd neu broffesiynol. Yn ogystal â gwaith llafar, bydd cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando yn y dosbarth ac i ymgymryd â gwaith darllen ac ysgrifennu. Trwy wneud hyn, y gobaith ydy creu ymwybyddiaeth o’r iaith ymhlith y myfyrwyr a gwneud yr iaith yn berthnasol i’r gweithle.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn agosáu at lefel A1 ar y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin, Graddfeydd Asesu Iaith.
Amser Cyswllt: 24 o oriau.