Mae’r modiwl yma’n addas ar gyfer pobl sy’n deall Cymraeg llafar yn dda, ond sy’n ddihyder ynglŷn â siarad yr iaith, yn enwedig yng nghyd-destun y gwaith.
Yn y modiwl yma, rhoddir cryn sylw i fagu hyder a rhuglder wrth gyfathrebu mewn gwahanol sefyllfaoedd at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol. Ar waith llafar, y rhoddir y sylw pennaf ond y bwriad yw ddatblygu sgiliau gwrando a deall yn gyffredinol.
Datblygir ymhellach y sgiliau darllen a deall ac ysgrifennu, trwy ganolbwyntio ar hysbysebion, ac annog y myfyrwyr i ysgrifennu e-byst byrion.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn agosáu at lefel B1 ar y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin, Graddfeydd Asesu Iaith.
Amser Cyswllt: 24 o oriau