Yn y modiwl yma, rhoddir sylw i adeiladu a chadarnhau’r patrymau iaith a’r eirfa a ddysgwyd ym modiwl Cymraeg Rhagarweiniol, gan ystyried efallai y bydd rhai myfyrwyr yn dilyn y modiwl, nad ydynt wedi astudio’r Gymraeg ers peth amser.
Canolbwyntir ar drafod pynciau llafar sy’n berthnasol i’r myfyrwyr yn y gymuned ac yn gweithle.
O ran y gwaith ysgrifenedig, y bwriad yw annog y myfyrwyr i ysgrifennu nodiadau byr a llenwi ffurflenni, ac i ddechrau ymgodymu â darnau darllen a deall syml yn y Gymraeg gan ddilyn rhediad yr ystyr.
Amser Cyswllt: 24 o oriau.