Lefel Addysg Uwch 7 (Gradd Meistr)
Cyfanswm Credydau: 30
1. 12 tasg wythnosol sylwebaethol hyd at 500 gair yn cael eu marcio wrth fynd ymlaen a fydd tua 6,000 o eiriau rhyngddynt i’w cyflwyno dros y we ……………………………..67%
2. Aseiniadau ysgrifenedig (6) i’w cyflwyno bob yn ail wythnos hyd at 500 gair yr un (cyfanswm o tua 3,000 o eiriau) i’w cyflwyno dros y we yn ymdrin ag agwedd ymarferol o gyfieithu ar waith ………..33%
Mae’r modiwl yn anelu at:
1. Sicrhau ymwybyddiaeth fanwl o gysyniad cyfieithu cymhwysol a’r amrywiaeth eang o fathau sydd ohono.
2. Ennill trosolwg manwl o fethodoleg cyfieithu ac offer cyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur.
3. Dadansoddi’r defnydd ar amrywiaeth eang o ddulliau ymarferol o gyfieithu.
Cynhelir sesiwn agoriadol yn y Brifysgol a dwy sesiwn drwy’r dydd ar ddau ddydd Sadwrn yn ystod y cwrs.