Wrth i chi ddefnyddio’r ap Paldaruo, bydd recordiadau o’ch llais yn cael eu llwytho i fyny i’w cadw ar ein gweinyddion. Gall y recordiadau gael eu defnyddio yn y dyfodol ar gyfer ymchwil academaidd, datblygu systemau adnabod lleferydd ac offer iaith tebyg.
Ni fydd yr ap Paldaruo yn recordio heb i chi ganiatáu iddo gael mynediad at feicroffon eich dyfais ac i chi glicio ar y botymau priodol i gychwyn recordio. Bydd yr ap Paldaruo bob tro yn rhoi gwybod pryd mae’n recordio.
Mae’r ap Paldaruo yn gofyn i chi fewnbynnu manylion am eich cefndir daearyddol, acen, oed a rhyw er mwyn eu cysylltu â recordiadau. Mae eich hawliau o ran cyfrannu yn ddienw a chadw cyfrinachedd yn bwysig iawn i ni ac ni fydd unrhyw fodd i adnabod cyfranwyr unigol o’r data y byddwn yn casglu. Ni fydd yr ap Paldaruo yn gofyn am eich enw a chyfeiriad o gwbl. Bydd yn clustnodi ac yn defnyddio rhif adnabod unigryw ar eich cyfer. Nid yw’r ap Paldaruo yn casglu’r enw rydych yn ei roi i’ch proffil o fewn yr ap. Mae eich enw proffil yn aros ac yn bodoli ar eich dyfais chi yn unig.
Rydym yn ofalus iawn am ddiogelwch data defnyddwyr ap Paldaruo, yn enwedig plant. Dylai plant o dan 17 oed cael caniatâd gan rieni/gwarcheidwaid cyn defnyddio’r ap Paldaruo. Hefyd dylai rhieni/ gwarcheidwaid sy’n caniatáu i’w plentyn ddefnyddio’r ap oruchwylio hynny’n ofalus. Drwy ganiatáu i’ch plentyn gael defnyddio’r ap Paldaruo, rydych chi’n caniatáu i’ch plentyn anfon eu recordiadau a metadata atom.
Os hoffech chi dderbyn rhagor o newyddion am y project, yna rhowch eich cyfeiriad e-bost i ni. Ni fydd cysylltiad rhwng y recordiadau a’r cyfeiriadau e-bost ac felly ni fydd yn bosibl adnabod cyfranwyr unigol.
Mae gennych chi hawl i dynnu eich cyfraniad yn ôl yn ystod cyfnod casglu’r project drwy ddefnyddio’r nodwedd ‘Sut i reoli’ch data’ o fewn yr ap. Ni fydd modd tynnu eich cyfraniad wedi i’r project ddod i ben ac i’r holl ddata gael ei gyhoeddi.
Gall y telerau hyn newid dros amser, ac os digwydd hynny, byddwn yn dweud wrthych ac yn gofyn i chi ddarllen a derbyn y telerau defnydd unwaith eto.
Drwy glicio ar y botwm ‘Derbyn’ rydych chi yn caniatáu i’ch recordiadau a’ch data gael eu danfon at ein gweinyddion ar gyfer holl ddibenion project GALLU: Gwaith Adnabod Lleferydd Uwch.