Mae Porth Corpora Cenedlaethol Cymru yn darparu rhyngwyneb hwylus ar gyfer chwilio Corpws Cofnod y Cynulliad gan ddefnyddio geiriau, termau neu ymadroddion.
Mae’r Corpws Cofnod y Cynulliad yn gorpws cyfochrog dwyieithog mewn dwy ran (1999-2003 a 2007-2010). Datblygwyd rhyngwynwb Corpws Cofnod y Cynulliad er mwyn darparu cymorth ar gyfer:
- y rhai hynny sy’n ysgrifennu testun Cymraeg
- cyfieithwyr dynol
- ieithyddion ac ymchwilwyr academaidd
Gallwch chwilio yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd y testun sy’n cyfateb yn cael ei amlygu mewn print trwm.
Bydd y nodwedd chwilio yn dod o hyd i unrhyw ffurf o air Saesneg neu Gymraeg, hyd yn oed os yw’r ffurf honno yn un wedi’i threiglo, ei rhedeg neu ei ffurfdroi fel arall.
Er enghraifft, gall chwilio am ‘Cymru’ ddod o hyd i ‘Gymru’, gall chwilio am ‘dweud’ ddod hyd i ddywedwyd, a gall chwilio am ‘cadair olwyn’ ddod o hyd i ‘chadeiriau olwyn’.
Mae hyn yn angenrheidiol ar gyfer chwilio effeithiol gan fod gan lawer o eiriau Cymraeg nifer helaeth o ffurfiau gwahanol.