Corpws Enghreifftiol Cyweiriau Iaith

Mae’r Corpws Enghreifftiol Cyweiriau Iaith yn gorpws bychan o destunau Cymraeg a godwyd â llaw o gorpws ymchwil Cysill Ar-lein. Mae’r corpws wedi’i anonymeiddio â llaw a’i rannu’n segmentau sy’n cyfateb fel arfer i frawddegau. Dosbarthwyd y segmantau i gategorïau gwahanol gan yr ymchwilydd yn ôl eu cywair.

corpws_cyweiriau

Y categorïau a ddefnyddwyd wrth ddosbarthu’r testun oedd:

  • Hynafol
  • Clasurol
  • Ffurfiol
  • Technegol
  • Niwtral
  • Iaith Symledig / Cymraeg Clir
  • Anffurfiol
  • Anffurfiol iawn / llafar
  • Tafodieithol
  • Sathredig

Lluniwyd matrics teipoleg cyweiriau iaith er mwyn hwyluso’r dasg o ddosbarthu’r testun. Gellir canfod y matrics yma.