Mae’r Corpws Enghreifftiol Cyweiriau Iaith yn gorpws bychan o destunau Cymraeg a godwyd â llaw o gorpws ymchwil Cysill Ar-lein. Mae’r corpws wedi’i anonymeiddio â llaw a’i rannu’n segmentau sy’n cyfateb fel arfer i frawddegau. Dosbarthwyd y segmantau i gategorïau gwahanol gan yr ymchwilydd yn ôl eu cywair.
Y categorïau a ddefnyddwyd wrth ddosbarthu’r testun oedd:
- Hynafol
- Clasurol
- Ffurfiol
- Technegol
- Niwtral
- Iaith Symledig / Cymraeg Clir
- Anffurfiol
- Anffurfiol iawn / llafar
- Tafodieithol
- Sathredig
Lluniwyd matrics teipoleg cyweiriau iaith er mwyn hwyluso’r dasg o ddosbarthu’r testun. Gellir canfod y matrics yma.