Roedd project WISPR (Welsh and Irish Speech Processing Resources) yn broject sylweddol a arianwyd drwy raglen “Interreg” yr UE. Rhoddwyd arian ychwanegol i’r project gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Nod y project oedd datblygu synthesis testun-i-lais ar gyfer y Gymraeg a’r Wyddeleg, a hefyd gasglu cronfeydd data llafar ar gyfer yr ieithoedd hynny. Fe’i datblygwyd ar y cyd gan yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, a Trinity College Dulyn, gyda chefnogaeth Dublin City University a’r University College Dublin.
Defnyddiodd y project WISPR fframwaith boblogaidd cod agored “Festival” ar gyfer TiL. Ychwanegodd y tîm WISPR yng Nghymru rai nodweddion defnyddiol newydd i Festival, megis galluogi Festival i ddelio gyda thestun oedd wedi’i greu mewn fformat UTF-8 (er mwyn i bob nod Cymraeg, gan gynnwys ŵ ac ŷ, gael eu trin yn gywir).
Roedd canlyniadau’r project yn cynnwys syntheseisydd llefaru testun Cymraeg ac adnoddau ychwanegol ar gyfer datblygwyr, gan gynnwys sgriptiau Python ar gyfer adeiladu lleisiau newydd a thasgau eraill, sgriptiau recordio ar gyfer y Gymraeg, data lleferydd a recordiwyd ar gyfer y Gymraeg, dogfennau technegol, papurau gwyddonol.
Mae adnoddau WISPR ar gael o brif wefan WISPR.