Yn Hydref 2011 paratôdd yr Uned Technolegau Iaith adroddiad ar ran Cyngor Llyfrau Cymru ar e-gyhoeddi yn a chanllawiau technegol ar gyfer creu e-lyfrau EPUB. Mae’r dogfennau hyn ar gael o wefan Cyngor Llyfrau Cymru:
Adroddiad E-gyhoeddi yn y Gymraeg
E-gyhoeddi-yn-y-Gymraeg
E-gyhoeddi – Canllawiau Technegol
E-gyhoeddi-Canllawiau-Technegol-170212-gol
Digido, E-Gyhoeddi a Chorpws Electronig
Project i ailgyhoeddi llyfrau Cymraeg allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg sydd allan o brint ar ffurf e-lyfrau yw DECHE, a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ynghyd â diogelu’r cyhoeddiadau academaidd hyn i’r dyfodol a’u gwneud yn fwy hygyrch i fyfyrwyr a staff prifysgol, cyhoeddwyd yr e-lyfrau ar ffurf EPUB, MOBI (ar gyfer Kindle) a PDF. Mae’r e-lyfrau i’w gweld yn Llyfrgell y Coleg.
Hefyd, wrth ddigido’r testunau gosodwyd cynnwys y llyfrau mewn corpws o destunau ysgolheigaidd Cymraeg DECHE yn y Porth Corpora Cenedlaethol.
Daeth y project hwn i ben ddiwedd Gorffennaf 2016. Fodd bynnag, os ydych chi’n ymwybodol o lyfrau Cymraeg ysgolheigaidd sydd allan o brint, ac y byddai’n fuddiol eu cael ar ffurf e-lyfrau i fyfyrwyr y Coleg Cymraeg, rhowch wybod i ni. Rydyn ni’n dal yn awyddus i gasglu rhestr o lyfrau posibl i’w digido ar gyfer project pellach yn y dyfodol.
Yn ystod haf 2011 comisiynodd Cyngor Llyfrau Cymru yr Uned Technolegau Iaith i ymchwilio i e-gyhoeddi yn y Gymraeg ar eu cyfer. Cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau yr adroddiad hwn ym mis Hydref 2011, a darparwyd hefyd ganllawiau technegol manwl ar sut i gyhoeddi e-lyfr ar ffurf EPUB.
Yn dilyn hyn, dyfarnodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg grant bychan i’r Uned i greu gwefan a rhaglennig i gynorthwyo cyhoeddwyr i baratoi testunau Cymraeg ar gyfer eu cyhoeddi ar ffurf E-Pub. Mae’r wefan yn gwirio testun am y problemau arferol sydd wrth greu e-lyfrau Cymraeg, fel problemau gyda dynodi’r acenion ŵ, Ŵ, ŷ ac Ŷ, cyn trosi’r cyfan i ffeil ar ffurf E-Pub. Mae modd lawrlwytho’r ffeiliau E-Pub gorffenedig a’u cyhoeddi yn ôl dymuniad y defnyddiwr.
Ewch i http://techiaith.bangor.ac.uk/e-gyhoeddwr
Datblygwyd yr adnodd hwn gan Dewi Bryn Jones a David Chan.