Ariannwyd y project arddangos CATcymru drwy’r cynllun A4B o gronfa ERDF yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a bu’n weithredol rhwng 2009 a 2011. Ei ddiben oedd dangos a hybu’r defnydd o dechnoleg cyfieithu o fewn y diwydiant cyfieithu yng Nghymru a throsglwyddo gwybodaeth o ymchwil a datblygu blaengar yn y maes hwn o academia i ddiwydiant. Dangosodd sut y gall y defnydd o offer addas wella ansawdd a chyflymder prosesau cyfieithu.
Beth yw CAT?
Technoleg Cyfieithu (CAT) yw’r holl adnoddau cyfrifiadurol sy’n gallu hwyluso gwaith cyfieithu. Mae’n cynnwys:
- Meddalwedd cof cyfieithu
- Adnoddau terminolegol a geirfaol
- Rhag-gyfieithu awtomatig
- Offer gwirio iaith
- Offer dilysu fformatau ffeil
- Systemau rheoli llif gwaith a cyfrifo
Beth gyflawnodd y project?
- Cynhyrchu adroddiad “Gwell offer technoleg gwybodaeth ar gyfer y Diwydiant Cyfieithu yng Nghymru: Arolwg dadansoddol” (gweler isod)
- Paratoi arddangosiadau eglur ar-lein
- Cynnal gweithdai i fusnesau a chyfieithwyr unigol ar bynciau oedd yn cynnwys:
- Technoleg Cyfieithu
- Codau Iaith a Localau
- Hollti Cofion Cyfieithu
- Torri Costau a Gwella Canlyniadau
- Cyfieithu a Drafftio Dwyieithog
- Creu Geirfaon Cwmni
- Cyweiriau Iaith
- Cynnal Cynhadledd Technoleg Cyfieithu a’r Economi Ddigidol
- Cyflwyniadau yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 a chynhadledd Cyfieithwyr Cymru
- Creu canllawiau ar gyfer rheoli gwefannau dwyieithog ac amlieithog
- Creu Porth Termau cenedlaethol ar y We
RheoliGwefannauDwyieithog_ManagingMultilingualWebsites_CY_EN