Gweithdy #4


Cefndir

Mae arloesedd mewn Technoleg Iaith a  Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol yn y blynyddoedd diweddar wedi darparu llawer o offer ac adnoddau prosesu iaith i nifer o ieithoedd. Mae offer iaith sylfaenol, o wirwyr sillafu a gramadeg at systemau rhyngweithiol fel Siri, yn ogystal ag adnoddau fel y Trillion Word Corpus, i gyd yn plethu gyda’i gilydd i greu cynnyrch a gwasanaethau sy’n ddefnyddiol i’n bywydau bob dydd.

Hyd at yn gymharol ddiweddar, nid yw ieithoedd gyda niferoedd llai o siaradwyr, megis yr ieithoedd Celtaidd, wedi elwa rhyw lawer o ddatblygiadau yn y maes hwn. Fodd bynnag, mae technegau modern yn y maes yn ei gwneud hi’n haws creu offer ac adnoddau iaith yn gyflymach drwy ddulliau mwy cynnil. Oherwydd hyn mae llawer o ieithoedd gyda llai o siaradwyr yn medru manteisio ar yr oes ddigidol drwy ddarpariaeth technolegau ac adnoddau iaith.

Mae’r gyfres Gweithdy Technoleg Iaith Geltaidd (CLTW) yn darparu fforwm ar gyfer ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn datblygu adnoddau prosesu iaith naturiol (NLP) a thechnolegau iaith (TI) ar gyfer yr ieithoedd Celtaidd. Gan fod yr Ieithoedd Celtaidd yn rhai prin eu hadnoddau, ein nod yw annog cydweithio a chyfathrebu rhwng ymchwilwyr yn gweithio ar dechnolegau iaith ac adnoddau ar gyfer ieithoedd Celtaidd.

Mae ein gweithdy yn croesawu cyflwyniadau damcaniaethol ac ymarferol ar unrhyw iaith Geltaidd (Gwyddeleg, Cymraeg, Gaeleg yr Alban, Manaweg, Cernyweg neu Lydaweg) sy’n cyfrannu i’r ymchwil ar gyfieithu peirianyddol, prosesu iaith awtomatig, technolegau iaith/lleferydd neu adnoddau ar eu cyfer. Mewn gweithdai CLTW blaenorol gwelsom fod llawer o fudd i’w gael o rannu arferion da a dysgu oddi wrth brofiadau ymchwilwyr eraill o weithio gydag adnoddau cyfyngedig yn y fforwm hon. Rydym yn croesawu yn arbennig astudiaethau sydd naill ai yn delio â chymwysiadau ymarferol gyda bodau dynol yn rhan o’r broses, neu’r diffyg adnoddau sydd ar gael ar gyfer ieithoedd unigol yn y maes hwn.

Meysydd diddordeb

Mae meysydd diddordeb CLTW yn cynnwys, ond heb fod wedi’u cyfyngu i:

  • • Adnoddau Iaith Celtaidd
  • • Cystrawen, Semanteg, Lecsiconau
  • • Anodi dan oruchwyliaeth a lled-oruchwyliaeth ar gyfer testunau ieithoedd Celtaidd (e.e. tagio rhannau ymadrodd a morffoleg)
  • • Dysgu Iaith drwy Gymorth Cyfrifiadur (CALL)
  • • Cyfieithu Peirianyddol, Parsio /Talpio
  • • Terminoleg a Chynrychioliad Gwybodaeth
  • • Prosesu/Cynhyrchu Lleferydd
  • • Dyniaethau Digidol Celtaidd
  • • Datblygu/Dadansoddi Corpws Celtaidd
  • • Coedfancio
  • • Dulliau Gwerthuso
  • • Ontoleg-lecsica
  • • Adnoddau Data Cysylltiedig
  • • Alldynnu Gwybodaeth
  • • Dulliau Traws-ieithyddol a Dysgu Trosglwyddol
  • • NLP/TI ar gyfer ieithoedd Celtaidd hanesyddol

Dyddiadau pwysig

  • • Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau: Ebrill 8 Ebrill 15, 2022 (AoE)
  • • Hysbysu’r canlyniad: Mai 3, 2022
  • • Dyddiad cau copi camera-barod: Mai 23, 2022
  • • Gweithdy: Mehefin 20, 2022 (bore)

Cyflwynwch eich papur i https://www.softconf.com/lrec2022/CLTW2022/ (submission guidelines; templates).

Pwyllgor y Rhaglen

  • • Beatrice Alex (University of Edinburgh)
  • • Colin Batchelor (Cymdeithas Frenhinol Cemeg)
  • • Ann Foret (Université Rennes 1)
  • • John Judge (ADAPT/ Dublin City University)
  • • Teresa Lynn (Dublin City University)
  • • Mark McConville (University of Glasgow)
  • • John P. McCrae (National University of Ireland, Galway)
  • • Marieke Meelen (University of Cambridge)
  • • Ailbhe Ní Chasaide (Trinity College Dublin)
  • • Neasa Ní Chiaráin (Trinity College Dublin)
  • • Brian Ó Raghallaigh (Fiontar/ Dublin City University)
  • • Thierry Poibeau (Laboratoire Lattice, CNRS – École Normale Supérieure, Sorbonne Nouvelle)
  • • Kevin Scannell (Saint Louis University)
  • • Elaine Uí Dhonnchadha (Trinity College Dublin)
  • • Monica Ward (Dublin City University)
  • • Pauline Welby (Laboratoire Parole et Langage (LPL), CNRS – Aix Marseille Université)
  • • David Willis (University of Oxford)

Pwyllgor Trefnu