Gweithdy technolegau iaith Celtaidd
(Celtic Language Technology Workshop)
Cymuned ymchwil a gweithdai ar dechnolegau prosesu iaith a lleferydd ar gyfer yr ieithoedd Celtaidd
** Cliciwch yma i ddarganfod mwy am CLTW #4 (LREC 2022) **
Cyflwyniad
Daeth y gymuned CLTW a’i gweithdai – a sefydlwyd yng nghynhaldledd COLING (Dulyn) yn 2014 – i fod yn ffocws allweddol ar gyfer ymchwil mewn technolegau iaith ar gyfer yr ieithoedd Celtaidd. Yn arbennig, mae wedi symbylu ymchwil drwy hwyluso cyfathrebu a chydweithio rhyngwladol. Mae gan ein cymuned ddiddordeb mewn technoleg iaith ar gyfer cyfnodau cyfoes a hanesyddol yr ieithoedd Celtaidd.
Yn ystod y cyfnod Clasurol, roedd ieithoedd Celtaidd yn cael eu siarad ar draws darnau eang o Ewrasia fodern. Heddiw, cânt eu siarad mewn rhannau o Brydain ac Iwerddon, yn ogystal â Llydaw. Yr ieithoedd modern yw: Gwyddeleg, Llydaweg, Manaweg, Cymraeg, Cernyweg a Gaeleg yr Alban. Er bod eu cymunedau traddodiadol yn fach o’u cymharu â rhai’r rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop, maent yn parhau i fod yn fywiog yn eu cadarnleodd a chyda dysgwyr newydd. Gwyddeleg yw’r unig iaith Geltaidd sydd â statws swyddogol yn yr UE (ers 2007), cafodd y Gymraeg, Gaeleg yr Alban a’r Fanaweg statws cydswyddogol. Mae gan y Llydaweg a’r Gernyweg hefyd rywfaint o statws cyfyngedig yn eu hardaloedd cartref. Er hynny, mae’r ieithoedd Celtaidd i gyd yn wynebu’r un broblem o fod yn brin eu hadnoddau prosesu iaith naturiol fyddai’n sicrhau cefnogaeth dechnolegol iddynt yn yr oes ddigidol.
Er bod yr ieithoedd Celtaidd yn rhannu rhai agweddau o’u sefyllfa socioieithyddol gyda ieithoedd lleiafrifol eraill, mae’r nodweddion ieithyddol sy’n arbennig iddynt (e.e. trefn geiriau Berf-Goddrych-Gwrthrych, treigliadau gramadegol a morffoleg cymharol gymhleth) hefyd yn cynnig her unigryw i ddatblygiad offer prosesu iaith naturiol o safon. Drwy dynnu ynghyd ymchwilwyr o bob un o’r ieithoedd Celtaidd, nod CLTW yw rhannu’r ymarfer gorau i oresgyn yr anawsterau hyn.
Cefndir a chydweithio
Mae cydweithio rhwng Prydain ac Iwerddon ym maes technolegau iaith Celtaidd yn mynd yn ôl i 2004 pan gychwynnodd Prifysgol Bangor yng Nghymru a Trinity College Dublin, UCD a DCU yn Nulyn weithio ar ymchwil i Adnoddau Prosesu Iaith Cymraeg a Gwyddeleg dan y rhaglen Interreg III Cymru/Iwerddon. Ymestynnodd y cydweithio yn nes ymlaen at NUIG drwy sefydlu’r Grŵp Technolegau Iaith Celtaidd yn 2014. Mae’r grŵp hwn bellach wedi lledu ei ddiddordeb mewn technolegau iaith i bob un o’r ieithoedd Celtaidd modern. Cawsom dri gweithdy llwyddiannus yn esgor ar gyhoeddi trafodion uchel eu parch, un yn gysylltiedig â COLING yn 2014, un â TALN yn 2016 ac un gyda Chymdeithas Cyfieithu Peirianyddol Ewrop yn 2019 (gw. Gweithdai).
Cynhaliwyd trafodaeth Ford Gron ym Mhrifysgol Bangor, hefyd yn 2019, i drafod cydweithio pellach rhwng yr ieithoedd Celtaidd ym Mhrydain ac Iwerddon ym maes Technolegau Iaith Celtaidd. Yn ei chasgliadau, mynegodd y Ford Gron yr awydd am gydweithio agosach: “Yn unigol, mae ein cymunedau iaith yn fach iawn, ac mae ymuno gyda’n gilydd yn ein helpu i gael más critigol i ddatblygu projectau ymchwil a chefnogi ein gilydd.” Gw. yma am gofnod llawn o’r drafodaeth.
Gweithdai
Bydd y pedwerydd gweithdy yn y gyfres Gweithdy Technoleg Iaith Geltaidd yn cael ei gydleoli gydag LREC 2022 yn Marseille, Ffrainc. Cafodd y gyfres CLTW dri gweithdy llwyddiannus eisoes:
- • Dulyn, Iwerddon 2019, cydleolwyd gyda’r MT Summit XVII (trafodion)
- • Paris, Ffrainc 2016, fel rhan o’r 6ed gynhadledd ar y cyd i JEP-TALN-RECITAL 2016 (trafodion)
- • Dulyn, Ireland 2014, cydleolwyd gyda’r 25ain Gynhadledd Ryngwladol ar Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol (COLING) (gwefan; trafodion)
Ymunwch â’r gymuned
Rydym bob amser yn croesawu aelodau newydd. Os hoffech chi ddod yn rhan o’n cymuned Technoleg Iaith Geltaidd ymunwch â’n grŵp a’n rhestr e-bost Google ar celtic-language-technology@googlegroups.com.