SALT Cymru

Roedd SALT Cymru yn ddau broject dilynol, gyda’r cyntaf yn Astudiaeth Ddichonolrwydd a’r ail yn rhwydwaith ar gyfer cwmnïau a sefydliadau â diddordeb mewn technolegau iaith.

Ariannwyd Rhwydwaith SALT Cymru drwy’r cynllun A4B o gronfa ERDF yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a bu’n weithredol rhwng 2009 a 2011. Yn ystod y cyfnod hwn gweithiodd gyda nifer mawr o gwmnïau meddalwedd a chwmnïau yn y sector diwydiannau creadigol a chyrff eraill oedd a diddordeb mewn hybu economi Cymru drwy wella’u defnydd o’r technolegau newydd hyn. Arweiniodd hyn at sefydlu’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol lle ceir adnoddau ac offer at ddefnydd cwmnïau a datblygwyr sydd eisiau cynnwys y Gymraeg yn eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Erbyn hyn hefyd sefydlwyd Clwstwr Gallu Iaith Cymru ar LinkedIn er mwyn i bawb sydd â diddordeb mewn technolegau iaith, polisi, strategaeth a materion cysylltiedig eraill fedru cadw mewn cysylltiad â’i gilydd.

Beth yw SALT?

Mae SALT (Technolegau Iaith a Lleferydd neu Speech and Language Technologies) yn cynnwys:

  • Technoleg lleferydd
    (adnabod lleferydd,adnabod siaradwr, technegau testun-i-leferydd,
    codio a gwella lleferydd, prosesu lleferydd amlieithog)
  • Mewnbwn iaith ysgrifenedig
    (OCR – adnabod nodau’n optegol, adnabod llawysgrifen)
  • Dadansoddi, deall a chynhyrchu iaith
    (gramadeg, semanteg, parsio, disgwrs a deialog)
  • Prosesu dogfennau
    (echdynnu termau a thestun, dehongli, crynhoi)
  • Cyfieithu peirianyddol
    (gan gynnwys cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, adalw gwybodaeth amlieithog)
  • Amlfoddolrwydd
    (adnabod ystumiau a symud gwynebau, delweddu data testun)
  • Adnoddau iaith
    (corpora llafar ac ysgrifenedig, lecsiconau, terminoleg)
  • Gwerthuso
    (gwerthuso’r cyfan uchod)

Beth gyflawnodd y project?

  • Creu’r rhwydwaith gyntaf erioed ym maes technolegau iaith a lleferydd yng Nghymru i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd.
  • Braenaru’r tir ar gyfer ymchwil pellach y maes technolegau iaith a lleferydd yng Nghymru.
  • Creu cyflwyniadau ac arddangosiadau ar-lein i dechnolegau SALT ar gyfer diwydiant Cymru.
  • Cynnal seminarau i fusnesau ar wahanol agweddau o SALT.
  • Cynnal sesiynnau un-i-un i gyflwyno SALT i fusnesau a thrafod ffynonellau cyllido posibl.
  • Cynnal Cynhadledd Terminoleg ac Adnoddau Iaith Eraill ar gyfer Diwydiant Cymru gan gynnwys cyflwyniad gan brif derminolegydd IBM, Kara Warburton.
  • Cyflwyniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2010 a chynhadledd Cyfieithwyr Cymru.
  • Creu canllawiau ar gyfer rhifo Cymraeg mewn meddalwedd.

Mae rhwydwaith SALT Cymru bellach wedi’i hymgorffori yn y Clwstwr Gallu Iaith.

SALT-Cymru-_HE-06-KEP-1002_-Project-Closure-Report
welsh-numerical-forms