Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru

Mae’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru yn gasgliad o adnoddau meddalwedd o adnoddau technolegol cyfrwng Cymraeg a ddatblygwyd yma yng Nghanolfan Bedwyr. Mae ein huned dechnolegau iaith wedi darparu’r adnoddau fel ‘flociau adeiladu’ agored, rhwydd ac am ddim ar gyfer clybiau codio Cymraeg, hacwyr a gwirfoddolwyr brwdfrydig, gwmnïau meddalwedd lleol a rhyngwladol ac ymchwilwyr, i gynhyrchu cynnyrch digidol gorffenedig Cymraeg.

Elfen bwysig o’r Porth Technolegau Iaith yw cynorthwyo defnyddwyr drwy gyfarwyddiadau a thiwtorialau ar sut i ddefnyddio’r adnoddau yn ogystal â chynnig syniadau ar wahanol gynnyrch e.e. apiau, gemau, projectau i’ch Raspberry Pi, nodweddion wedi’u plannu mewn gwefannau.

Cyhoeddi Cynhadledd Trwy Ddulliau Technoleg,
Prifysgol Bangor, 06/03/15

Cynhelir cynhadledd i lansio Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru ym Mhrifysgol Bangor, dydd Gwener y 6ed o Fawrth, 2015. Mae’r Porth newydd yn ffrwyth project gan Yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, gyda chymorth grant gan Gronfa Technoleg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru. Agorir y gynhadledd gan yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor.

Bydd y Porth yn cynnwys nifer o adnoddau defnyddiol ar gyfer meddalwedd a gwefannau Cymraeg a gynhyrchwyd gan yr UTI. Bydd modd i ddatblygwyr meddalwedd, clybiau codio ac ymchwilwyr ddefnyddio’r rhain yn rhad ac am ddim yn eu cynnyrch hwy. Ceir rhagflas o’r adnoddau hyn yn ystod y gynhadledd, ynghyd ag astudiaethau achos o sut y defnyddiwyd yr adnoddau hyd yn hyn. Mae rhaglen y gynhadledd i’w gweld yma

Mae teitl y gynhadledd, “Trwy Ddulliau Technoleg” yn chwarae ar y dyfyniad enwog o ddarlith radio allweddol Saunders Lewis a ddywedodd mai “drwy ddulliau chwyldro yn unig” yr oedd achub y Gymraeg. Dydyn ni ddim yn honni mai drwy ddulliau technoleg yn unig y mae achub yr iaith heddiw, ond credwn yn yr oes ddigidol hon ei fod yn un o’r dulliau allweddol ar gyfer sicrhau dyfodol yr iaith a lles economaidd a chymdeithasol ei siaradwyr.

Nid yw’r Gymraeg ar ei phen ei hun o bell ffordd yn hyn. Mae’r rhan fwyaf o ieithoedd y byd wedi’u cau allan o’r chwyldro cyfathrebu, ac yn ddifreintiedig o’r herwydd. Mae adnoddau technolegau iaith yn bwysig nid yn unig i’r Gymraeg ond i ieithoedd eraill llai eu hadnoddau megis yr ieithoedd Celtaidd eraill, y Fasgeg, y Wyddeleg a ieithoedd brodorol De Affrica. Er mwyn hybu cydweithio ac ysbrydoli ein gilydd felly, byddwn yn croesawu caredigion sy’n gweithio gyda Thechnolegau Iaith mewn ieithoedd eraill llai eu hadnoddau i siarad ac i gymryd rhan yn y gynhadledd. Ymhlith y siaradwyr gwadd bydd yr Athro Laurette Pretorius o Brifysgol De Affrica, Pretoria; Dr Kepa Sarasola o Brifysgol Gwlad y Basg, San Sebastián; John Judge o Dublin City University, Iwerddon,  a Jeff Beatty, cyd-lynydd Lleoleiddio Mozilla i’r Ieithoedd Celtaidd, o Utah yn yr UDA.

Mae croeso i siaradwyr pob iaith i’r gynhadledd felly. Prif iaith y gynhadledd fydd Cymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg. Traddodir anerchiadau’r siaradwyr gwadd o dramor yn Saesneg.

WelshGovtlogo