Category Archives: Termau

CATcymru

Ariannwyd y project arddangos CATcymru drwy’r cynllun A4B o gronfa ERDF yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a bu’n weithredol rhwng 2009 a 2011. Ei ddiben oedd dangos a hybu’r defnydd o dechnoleg cyfieithu o fewn y diwydiant cyfieithu yng Nghymru a throsglwyddo gwybodaeth o ymchwil a datblygu blaengar yn y maes hwn o academia i ddiwydiant. Dangosodd sut y gall y defnydd o offer addas wella ansawdd a chyflymder prosesau cyfieithu.

Beth yw CAT?

Technoleg Cyfieithu (CAT) yw’r holl adnoddau cyfrifiadurol sy’n gallu hwyluso gwaith cyfieithu. Mae’n cynnwys:

  • Meddalwedd cof cyfieithu
  • Adnoddau terminolegol a geirfaol
  • Rhag-gyfieithu awtomatig
  • Offer gwirio iaith
  • Offer dilysu fformatau ffeil
  • Systemau rheoli llif gwaith a cyfrifo

Beth gyflawnodd y project?

  • Cynhyrchu adroddiad “Gwell offer technoleg gwybodaeth ar gyfer y Diwydiant Cyfieithu yng Nghymru: Arolwg dadansoddol” (gweler isod)
  • Paratoi arddangosiadau eglur ar-lein
  • Cynnal gweithdai i fusnesau a chyfieithwyr unigol ar bynciau oedd yn cynnwys:
    • Technoleg Cyfieithu
    • Codau Iaith a Localau
    • Hollti Cofion Cyfieithu
    • Torri Costau a Gwella Canlyniadau
    • Cyfieithu a Drafftio Dwyieithog
    • Creu Geirfaon Cwmni
    • Cyweiriau Iaith
  • Cynnal Cynhadledd Technoleg Cyfieithu a’r Economi Ddigidol
  • Cyflwyniadau yn Eisteddfod Genedlaethol 2010 a chynhadledd Cyfieithwyr Cymru
  • Creu canllawiau ar gyfer rheoli gwefannau dwyieithog ac amlieithog
  • Creu Porth Termau cenedlaethol ar y We
CATcymru_AdroddiadTerfynol_HE06fsp_CY

 

RheoliGwefannauDwyieithog_ManagingMultilingualWebsites_CY_EN

Welsh-Termau-Cymraeg

Rhestr drafod bywiog iawn a sefydlwyd ac a weinyddir gan yr Uned Technolegau iaith er mwyn galluogi trafod termau technegol a geirfa ar gyfer Cymraeg, gan gynnwys safoni a dulliau dosbarthu.

Mae gan Welsh-Termau-Cymraegdros 250 o aelodau, gyda’r mwyafrif yn gyfieithwyr proffesiynol, ond gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn termau ymaelodi.

Welsh-Termau-Cymraeg

Porth Termau Cenedlaethol Cymru

Mae Porth Termau Cenedlaethol Cymru yn eich galluogi i chwilio cynnwys y geiriaduron termau a ddatblygwyd ers 1993 gan y Ganolfan Safoni Termau* (a phartneriaid cymeradwy eraill) mewn un gwefan hawdd ei chwilio.

www.termau.cymru

Mae’r *Ganolfan Safoni Termau bellach wedi’i hymgorffori o fewn yr Uned Technolegau Iaith.

Jones, D.B.; Prys, Delyth and Prys, Gruffudd (2011). Porth Termau Cenedlaethol Cymru: Prifysgol Bangor, Bangor
Jones, D.B.; Prys, Delyth and Prys, Gruffudd (2011). Welsh National Terminology Portal: Bangor University, Bangor.

Project Termau Addysg Uwch

Project cenedlaethol a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw hwn. Fe’i sefydlwyd yn 2009 gyda’r amcan o greu cyfres o eiriaduron termau safonol a fydd yn hwyluso astudio ac addysgu mewn ystod eang o feysydd academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol. Mae’r geiriaduron bellach wedi’u cyfuno o fewn un geiriadur, sef Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Arweinir y prosiect gan Dr Tegau Andrews, sydd yn gyfrifol am ymchwilio i dermau a chysyniadau, a sicrhau bod gwaith safoni termau yn y sector hwn yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol ISO. Mae hi’n cydweithio’n agos gydag arbenigwyr pwnc academaidd a phroffesiynol ledled Cymru.

Cam cyntaf y prosiect oedd golygu tri geiriadur termau cyhoeddedig er mwyn eu cyhoeddi ar y we. Y meysydd pwnc dan sylw oedd y Gyfraith, Rheoli Coetiroedd a Seicoleg. Ers hynny, gwnaethpwyd gwaith safoni mewn nifer o feysydd eraill, yn eu plith Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y Diwydiannau Creadigol, Mathemateg a Ffiseg, Cemeg a Busnes.

Gwneir y gwaith ar sail cysyniadau a chonsensws, ac mae’r cofnodion ar gael ar-lein ar y wefan Termau Addysg Uwch ac yn y Porth Termau Cenedlaethol.

Termau Addysg Uwch

Andrews, Tegau and Prys, Delyth (2015) Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Cardiff.

Y Termiadur Addysg

Mae trydydd fersiwn Y Termiadur bellach yn cael ei datblygu gan Uned technolegau Iaith Prifysgol Bangor dan nawdd Llywodraeth Cymru.

Mae modd i chi yn awr chwilio gwefan Y Termiadur Addysg am dermau a ddefnyddir mewn addysg gynradd, addysg uwchradd ac addysg bellach.

Cynhwyswyd mwy o bynciau, yn enwedig ym maes addysg bellach, ac rydym hefyd yn parhau i ychwanegu termau ar gyfer y meysydd pwnc cyfredol. Mae yno hefyd gemau difyr i chi’u chwarae, a chymorth pellach i ddysgu termau newydd.

Mae’r termau hyn hefyd yn cael eu dangos, gyda’n holl eiriaduron eraill o dermau wedi’u safoni, ar Y Porth Termau Cenedlaethol (www.termau.org), ond heb y gemau a’r wybodaeth unigryw i Y Termiadur Addysg ei hun.

Os oes gennych chi anghenion penodol am dermau ym maes addysg, neu os ydych chi’n ymwybodol o dermau a sydd ar goll, cysylltwch â ni i roi gwybod.

Prys, Delyth and Prys, Gruffudd (2011-) Y Termiadur Addysg. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.