Category Archives: Technoleg Lleferydd

Ap Paldaruo

Helpwch ni i ddatblygu adnabod lleferydd Cymraeg.
Cyfrannwch eich llais drwy ein ap a gwefan ‘Paldaruo’

paldaruo

iTunes    Google Play    Gwefan Paldaruo

Beth yw adnabod lleferydd a pham Paldaruo?

Mewn sawl sefyllfa erbyn hyn mae technolegau adnabod lleferydd yn caniatáu i ni siarad gyda’n cyfrifiaduron a’n dyfeisiau symudol fel iPhone neu iPad. Mae modd eu holi ar lafar (e.e. Siri ar yr iPhone, neu Alexa gan Amazon) am wybodaeth neu i’w gorchymyn i gyflawni tasg ar ein rhan, heb fod angen pwyso botymau a llywio dewislenni di-ri.

Bydd y dull yma o ddefnyddio ein hoffer cyfrifiadurol yn dod yn fwyfwy cyffredin a naturiol wrth i adnabod lleferydd a thechnolegau iaith eraill ymledu i amrywiaeth o offer eraill o fewn y tŷ, y swyddfa a’n ddysfeisiadau personol.

Y broblem fawr yw nad oes modd hyd yn hyn i ni siarad gyda’n cyfrifiaduron yn Gymraeg. Os ydyn ni eisiau i dechnolegau a gwasanaethau digidol newydd ein cynorthwyo drwy’r Gymraeg, mae’n bwysig datblygu technoleg adnabod lleferydd Cymraeg

Sut mae creu adnabod lleferydd?

Mae angen casglu nifer mawr o recordiadau o bob math o leisiau gwahanol yn siarad testun arbennig, wedi’i gynllunio i ddal pob cyfuniad o seiniau Cymraeg, er mwyn hyfforddi system adnabod lleferydd gyffredinol.

Felly recordiwch eich llais ar ein cyfer a rhannwch y wefan hon gyda’ch holl deulu a’ch ffrindiau sy’n medru siarad Cymraeg.

I gasglu’r corpws lleferydd Cymraeg, defnyddir dulliau torfoli (crowdsourcing) i recriwtio pobl o bob oed a chefndir daearyddol i ddarllen yn uchel sgript Gymraeg sydd wedi cael ei pharatoi.

Ap Paldaruo

Datblygwyd ap pwrpasol (Paldaruo) ar gyfer ffonau symudol a thabledi iOS ac Android i gasglu’r data. Dyma fideo o sut i’w ddefnyddio:

Dyma sgrin luniau o’r ap ar ddyfeisiadau iOS:

Sgrin croeso ap Paldaruo ar yr iPad

Sgrin croeso ap Paldaruo ar yr iPhone

Bydd yr ap Paldaruo yn casglu metadata am y defnyddwyr ynglŷn â’u rhyw, oedran, cefndir daearyddol ac acen.

I weld y cwestiynau metadata sydd o fewn yr ap cliciwch yma.

Gofyn beth yw eich rhyw ar yr iPad

Gofyn am eich lleoliad ar yr iPad

Gofyn am eich plentyndod yn yr ap iPhone

Gofyn pryd fyddwch yn siarad Cymraeg ar yr iPhone

Gofyn am eich acen ar yr iPhone

Mae’r ap yn tywys y defnyddiwr drwy’r broses o recordio’u llais, gan gynnig y sgript recordio iddynt. Mae’r ffeiliau sain yn cael eu gyrru yn ôl i weinydd y prosiect yn awtomatig.

I weld y rhestr o anogeiriau sydd yn yr ap Paldaruo ar hyn o bryd, cliciwch yma.

Sgrin recordio ar yr iPad

Sgrin recordio ar yr iPhone

Mae’r  ap Paldaruo wedi cael cymeradwyaeth foesegol gan Brifysgol Bangor ym mis Mawrth 2014. I fewn i’r ap Paldaruo fydd rhaid i ddefnyddwyr cytuno â telerau ac amodau.

I weld y telerau ac amodau, cliciwch yma.

Sgrin Telerau ac Amodau ar yr iPad

Sgrin Telerau ac Amodau ar yr iPhone

Project Adnabod Lleferydd Sylfaenol

Roedd y project Adnabod Lleferydd Sylfaenol yn broject peilot bychan a ariannwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Datblygodd gyfrifiannell a oedd yn cael ei gyrru gan leferydd er mwyn dangos potensial adnabod lleferydd Cymraeg. Prototeip labordy oedd y feddalwedd a ddeilliodd o hyn, yn hytrach na rhaglen sy’n barod i’r farchnad, ac mae’r gwaith ymchwil bellach wedi’i ymgorffori o fewn projectau GALLU a Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg.

EdGair

Prosesydd geiriau Cymraeg syml ar gyfer defnyddwyr sydd â dyslecsia yw EdGair. Fe’i datblygwyd ar gyfer Dyslecsia Cymru (sy’n gyfrifol am ei ddosbarthu). Mae’n cynnwys llais Cymraeg yr Uned Technolegau Iaith er mwyn ynganu geiriau fel y cânt eu teipio.

Project GALLU : Gwaith Adnabod Lleferydd Uwch

Bwriad project GALLU oedd datblygu adnoddau datblygu lleferydd uwch  ar gyfer yr iaith Gymraeg.  Arianwyd y project drwy grant gan Lywodraeth Cymru ac S4C. Gan adeiladu ar broject Adnabod Lleferydd Sylfaenol 2008-09 a phroject testun i leferydd WISPR 2003-2006, llwyddodd y project i wneud y canlynol:

  • cynllunio a datblygu casgliad o bromtiau sy’n cynnwys holl ffonemau’r iaith Gymraeg
  • casglu drwy ddulliau thorfoli o fewn ap newydd o’r enw Paldaruo, recordiadau o’r promtiau hyn yn cael eu llefaru gan y nifer mwyaf o bobl amrywiol, gan greu corpws lleferydd Cymraeg newydd.
  • enghreifftio defnyddio adnoddau’r corpws i hyfforddi meddalwedd adnabod lleferydd cod agored Julius ac HTK i reoli symudiad tegan robot yn glwm i Raspberry Pi
  • paratoi’r corpws ar gyfer datblygu yn y dyfodol systemau arddweud Cymraeg gan gynnwys creu teipoleg cyweiriau iaith gyda metadata addas ar gorpws hyfforddedig wedi’i dagio yn ôl nodweddion cywair
  • creu ategyn canfod a chadarnhau iaith cynnwys diofyn porwr ar gyfer Cymreigio tudalennau torfoli a gwefannau eraill

Cyfrannu

Er bod y project wedi dod i ben yn ffurfiol, mae croeso o hyd i chi ychwanegu eich llais i’r corpws drwy’r ap Paldaruo sydd ar gael isod. Byddwn yn defnyddio’r corpws ehangach mewn projectau pellach maes o law.

paldaruo

iTunes  Google Play