Category Archives: Technoleg Lleferydd

SALT Cymru

Roedd SALT Cymru yn ddau broject dilynol, gyda’r cyntaf yn Astudiaeth Ddichonolrwydd a’r ail yn rhwydwaith ar gyfer cwmnïau a sefydliadau â diddordeb mewn technolegau iaith.

Ariannwyd Rhwydwaith SALT Cymru drwy’r cynllun A4B o gronfa ERDF yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a bu’n weithredol rhwng 2009 a 2011. Yn ystod y cyfnod hwn gweithiodd gyda nifer mawr o gwmnïau meddalwedd a chwmnïau yn y sector diwydiannau creadigol a chyrff eraill oedd a diddordeb mewn hybu economi Cymru drwy wella’u defnydd o’r technolegau newydd hyn. Arweiniodd hyn at sefydlu’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol lle ceir adnoddau ac offer at ddefnydd cwmnïau a datblygwyr sydd eisiau cynnwys y Gymraeg yn eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Erbyn hyn hefyd sefydlwyd Clwstwr Gallu Iaith Cymru ar LinkedIn er mwyn i bawb sydd â diddordeb mewn technolegau iaith, polisi, strategaeth a materion cysylltiedig eraill fedru cadw mewn cysylltiad â’i gilydd.

Beth yw SALT?

Mae SALT (Technolegau Iaith a Lleferydd neu Speech and Language Technologies) yn cynnwys:

  • Technoleg lleferydd
    (adnabod lleferydd,adnabod siaradwr, technegau testun-i-leferydd,
    codio a gwella lleferydd, prosesu lleferydd amlieithog)
  • Mewnbwn iaith ysgrifenedig
    (OCR – adnabod nodau’n optegol, adnabod llawysgrifen)
  • Dadansoddi, deall a chynhyrchu iaith
    (gramadeg, semanteg, parsio, disgwrs a deialog)
  • Prosesu dogfennau
    (echdynnu termau a thestun, dehongli, crynhoi)
  • Cyfieithu peirianyddol
    (gan gynnwys cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, adalw gwybodaeth amlieithog)
  • Amlfoddolrwydd
    (adnabod ystumiau a symud gwynebau, delweddu data testun)
  • Adnoddau iaith
    (corpora llafar ac ysgrifenedig, lecsiconau, terminoleg)
  • Gwerthuso
    (gwerthuso’r cyfan uchod)

Beth gyflawnodd y project?

  • Creu’r rhwydwaith gyntaf erioed ym maes technolegau iaith a lleferydd yng Nghymru i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd.
  • Braenaru’r tir ar gyfer ymchwil pellach y maes technolegau iaith a lleferydd yng Nghymru.
  • Creu cyflwyniadau ac arddangosiadau ar-lein i dechnolegau SALT ar gyfer diwydiant Cymru.
  • Cynnal seminarau i fusnesau ar wahanol agweddau o SALT.
  • Cynnal sesiynnau un-i-un i gyflwyno SALT i fusnesau a thrafod ffynonellau cyllido posibl.
  • Cynnal Cynhadledd Terminoleg ac Adnoddau Iaith Eraill ar gyfer Diwydiant Cymru gan gynnwys cyflwyniad gan brif derminolegydd IBM, Kara Warburton.
  • Cyflwyniadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2010 a chynhadledd Cyfieithwyr Cymru.
  • Creu canllawiau ar gyfer rhifo Cymraeg mewn meddalwedd.

Mae rhwydwaith SALT Cymru bellach wedi’i hymgorffori yn y Clwstwr Gallu Iaith.

SALT-Cymru-_HE-06-KEP-1002_-Project-Closure-Report
welsh-numerical-forms

Project WISPR: Welsh Irish Speech Processing Resources

Roedd project WISPR (Welsh and Irish Speech Processing Resources) yn broject sylweddol a arianwyd drwy raglen “Interreg” yr UE.  Rhoddwyd arian ychwanegol i’r project gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Nod y project oedd datblygu synthesis testun-i-lais ar gyfer y Gymraeg a’r Wyddeleg, a hefyd gasglu cronfeydd data llafar ar gyfer yr ieithoedd hynny. Fe’i datblygwyd ar y cyd gan yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, a Trinity College Dulyn, gyda chefnogaeth Dublin City University a’r University College Dublin.

Defnyddiodd y project WISPR fframwaith boblogaidd cod agored “Festival” ar gyfer TiL. Ychwanegodd y tîm WISPR yng Nghymru rai nodweddion defnyddiol newydd i Festival, megis galluogi Festival i ddelio gyda thestun oedd wedi’i greu mewn fformat UTF-8 (er mwyn i bob nod Cymraeg, gan gynnwys ŵ ac ŷ, gael eu trin yn gywir).

Roedd canlyniadau’r project yn cynnwys syntheseisydd llefaru testun Cymraeg ac adnoddau ychwanegol ar gyfer datblygwyr, gan gynnwys sgriptiau Python ar gyfer adeiladu lleisiau newydd a thasgau eraill,  sgriptiau recordio ar gyfer y Gymraeg, data lleferydd a recordiwyd ar gyfer y Gymraeg, dogfennau technegol, papurau gwyddonol.

Mae adnoddau WISPR ar gael o brif wefan WISPR.

Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg

Nod project Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg yw gosod y sylfeini ar gyfer amrediad o dechnolegau cyfathrebu yn y Gymraeg, gan gynnwys trawsgrifio, rheoli teclynnau, a chyfieithu lleferydd i leferydd. Y bwriad yw ysgogi datblygiad pecynnau meddalwedd a gwasanaethau Cymraeg newydd, a phrif-ffrydio’r Gymraeg mewn pecynnau cyfathrebu ” rhyngrwyd y pethau”, meddalwedd cwestiwn ac ateb, ac amgylcheddau amlieithog.

Bydd y project yn gosod y sylfeini ar gyfer galluogi siarad Cymraeg â’ch set deledu, holi cwestiynau Cymraeg i’ch ffôn clyfar, a chael yr ateb yn ôl ar lafar yn Gymraeg hefyd.

Ariannwyd y project gan Lywodraeth Cymru drwy eu Cronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg ac S4C.

Allbynnau

Adroddiad “Tuag at Gynorthwyydd Personol Deallus Cymraeg”

Gwasanaeth API ar-lein cyfieithu peirianyddol

Demo Cyfieithu Peirianyddol

System Adnabod Lleferydd Cymraeg ar sail Julius

Corpws Lleferydd Cymraeg GALLU

Un o brif amcanion project GALLU yw casglu corpws lleferydd Cymraeg newydd pwrpasol drwy ddulliau torfoli er mwyn datblygu system LVCSR (large vocabulary continuous speech recognition) ar gyfer y Gymraeg yn y dyfodol.

Bydd y corpws yn casglu set o frawddegau sy’n cynnwys holl ffonemau’r iaith i hyfforddi modelau acwstig gyda HTK. Wedyn datblygir gramadeg i drosi’r ffonemau a adnabuwyd yn eiriau llawn. Bydd y modelau a’r system adnabod lleferydd Cymraeg yn adnoddau cod agored o fewn meddalwedd Julius.

Erbyn diwedd y project (diwedd mis Awst 2014) bydd y modelau acwstig a Julius yn gallu rheoli symudiad braich robot drwy gyfrwng gorchmynion llafar Cymraeg ar gyfer y Raspberry Pi.

Bydd y system adnabod lleferydd Cymraeg, y corpws hyfforddi’r systemau acwstig a’r cod i beri i feddalwedd ymateb i orchmynion llafar Cymraeg ar gael yn agored erbyn diwedd y project.

Bydd modd ymgorffori’r allbynnau mewn projectau clybiau a gwersi codio i blant yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae ‘na 20 recordiad o gyfranwyr yn llefaru’r promptiau sampl sydd wedi cael eu hysgrifennu i hyfforddi’r fraich robot. Cliciwch yma i’w llwytho nhw i lawr.

Promptiau yn yr ap Paldaruo

Datblygwyd y promptiau o fewn yr ap Paldaruo i gynnwys seiniau mwyaf cyffredin yr iaith. Mae’r recordiadau o’r promptiau isod wedi cael eu defnyddio i ddatblygu modelau acwstig ar gyfer system adnabod lleferydd Cymraeg.

 
 sample1: lleuad, melyn, aelodau, siarad, ffordd, ymlaen, cefnogaeth, Helen
 sample2: gwraig, oren, diwrnod, gwaith, mewn, eisteddfod, disgownt, iddo
 sample3: oherwydd, Elliw, awdurdod, blynyddoedd, gwlad, tywysog, llyw, uwch
 sample4: rhybuddio, Elen, uwchraddio, hwnnw, beic, Cymru, rhoi, aelod
 sample5: rhai, steroid, cefnogaeth, felen, cau, garej, angau, ymhlith
 sample6: gwneud, iawn, un, dweud, llais, wedi, gyda, llyn
 sample7: lliw, yng Nghymru, gwneud, rownd, ychydig, wy, yn, llaes
 sample8: hyn, newyddion, ar, roedd, pan, llun, melin, sychu
 sample9: ychydig, glin, wrth, Huw, at, nhw, bod, bydd
 sample10: yn un, er mwyn, neu ddysgu, hyd yn oed, tan, ond fe aeth, ati
 sample11: y gymdeithas, yno yn fuan, mawr, ganrif, amser, dechrau, cyfarfod
 sample12: prif, rhaid bod, rheini, Sadwrn, sy'n cofio, cyntaf, rhaid cael
 sample13: dros y ffordd, gwasanaeth, byddai'r rhestr, hyd, llygaid, Lloegr
 sample14: cefn, teulu, enwedig, ond mae, y tu, y pryd, di-hid, peth, hefyd
 sample15: morgan, eto, yma, ddefnyddio, bach, yn wir, diwedd, llenyddiaeth
 sample16: ym Mryste, natur, ochr, mae hi, newid, dy gymorth, nes, gwahanol
 sample17: i ddod, cyngor, athrawon, bychan, neu, digwydd, hud, mynd i weld
 sample18: ei gilydd, cyffredin, hunain, lle, cymdeithasol, y lle, unwaith
 sample19: i ti, newydd, ysgrifennu, y gwaith, darllen, fyddai, addysg, daeth
 sample20: llywodraeth, ond, hynny, esgob, cyrraedd, a bod, gwrs, ceir
 sample21: rhaid gweld, chwarae, nad oedd, wedyn, flwyddyn, ond nid, ardal
 sample22: buasai, hanes, ddiweddar, wedi cael, o bobl, merched, ffilm, cafodd
 sample23: awdur, na, oedd modd, dod, yr hen, gen i, olaf, ddechrau
 sample24: dyna, ddigon, i beidio, bynnag, rhan, trwy, am y llyfr, y cyfnod
 sample25: athro, anifeiliaid, pob, o fewn, yn gwneud, cartref, elfennau
 sample26: er enghraifft, bron, yn fwy, ar gael, sylw, edrych arno, arall
 sample27: cyhoeddus, un pryd, clywed, ohonom, ei fod, aros, gwyrdd golau
 sample28: yn ei gwen, mai, dod o Gymru, personol, allan, wrth y ffenestr
 sample29: ystyr, dda, arbennig, mae'n bwysig, oeddwn, farw, nifer o wyau, maer
 sample30: America, ar gyfer, iaith, bellach, genedlaethol, ateb, at y bont
 sample31: ar y cefn, ac roedd, nesaf, i gyd, doedd dim, cynnwys, amlwg
 sample32: amgylchiadau, gweithwyr, fy mam, ac yn llogi, pethau, unrhyw, drws
 sample33: Evans, yn mynd, corff, neb, eglwys, cafwyd, sef, ar ei
 sample34: datblygu, ac ati, traddodiad, yn byw, ond hefyd, y dydd, Williams
 sample35: dosbarth, yr un, fod yn fawr, ni, yr ysgol, ail ganrif, am, nid
 sample36: gofynnodd, gwybod, llawer, rhywbeth, o rywle, chwilio am, oddi ar
 sample37: cynllun, cychwyn, diolch, llyfr, yn y blaen, dan, i ddim, cyn
 sample38: i'r dde, ddyletswydd, hi, mae'n hwyr, dros, megis, milltir, adeg
 sample39: ambell, yr ogof, yna, Lerpwl, ysgolion, parc, dal, plant
 sample40: mam, oedd hwn, ifanc, gellir, oesoedd canol, capel, ysgol, mlynedd
 sample41: o gwmpas, hon, weithiau, erbyn hyn, stori, i fod, ganddo, yn cael
 sample42: Sir Benfro, gweld, gilydd, ond doedd, oes, un o'ch ffrindiau, ystod
 sample43: ddim, ond pan, edrych, wrth gwrs, a phan, ystyried, wedi bod

Matrics Teipoleg Cyweiriau Iaith

Yn yr ymarferiad isod, diffinnir cywair i olygu dosbarthiad sy’n dangos lefel berthynol yr iaith a ddynodir yn unigol i geirem, term neu fath o destun.

At ddibenion casglu corpws, mae’n gymorth i ni fedru adnabod rhai teipiau gwahanol o destun yn awtomatig, a cheisio dosbarthu testunau o’r un teip yn unol â hynny. Gellir cael sawl model gwahanol i ddosbarthu ac adnabod cyweiriau, bwriad yr isod yw cynnig patrwm i gynorthwyo’r gwaith hynny yn gyfrifiadurol, yn hytrach na chynnig canllawiau ysgrifennu.

Nid yw’r isod yn ddosbarthiadau caeedig, ac fel arfer ceir cymysgedd o nodweddion gwahanol mewn testunau. Amlder y defnydd o wahanol nodweddion sy’n cynorthwyo’r peiriant i gael gwell syniad o’r cywair dan sylw, yn hytrach na bodolaeth syml nodweddion unigol mewn testun penodol.

Dynoda * ffurf sydd wedi’i rhagnodi yn arddulliadur Cyfieithwyr Llywodraeth Cymru ond sydd ddim o reidrwydd yn cyfateb i deipoleg disgrifiadol o’r gwahanol gyweiriau.

Dynoda ** ffurf sydd wedi’i rhagnodi mewn Cymraeg Clir.

Wrth gyfeirio at eirfa, golyga ‘safonol’ yma ffurfiau sydd wedi’u nodi fel arfer ym mhrif eiriaduron y Gymraeg.



 

Hynafol

Clasurol

Ffurfiol

Technegol

Niwtral

Iaith symledig / Cymraeg Clir

Anffurfiol

Anffurfiol iawn/llafar

Tafodieithol

Sathredig

Llawnder ffurfiau’r ferf

Yr ydwyf…..

Yr wyf….

Rwyf….

Rwy….

Rwy….

Rwy….

Dw i… [*Rydw i…]

Dw i …./Wi…./I fi….

Dw i …./Wi…./I fi….

Fi….

Modd dibynnol

X

X

X

X

X

X

X

Defnydd o’r amhersonol

X

Yn fwy cyffredin yn y gorff. na’r pres.

X

X

X

Cwmpasog a chryno

Cryno

 

Cryno

Cryno yn bennaf

Cryno yn bennaf

Cymysg. Defnyddio ‘caiff’ i oresgyn
problem cryno/cwmpasog

Cwmpasog ac eithrio rhai cyfarwydd iawn

Cymysg

Cymysg gyda’r cwmpasog yn llawer mwy cyffredin

Cwmpasog yn y gogledd, cryno anffurfiol
yn y de (e.e. es i yn lle euthum/ nes i fynd/ddaru mi fynd)

Ffurfiau amrywiol ansafonol yn
gyffredin

Terfyniad 3ydd lluosog pres.

–nt hwy

–nt hwy

–nt hwy

–nt hwy

–nt hwy/-n nhw

-n nhw

-n nhw

-n nhw

-n nhw

-n nhw

Geirynnau rhagferfol

X

X

Achlysurol

X

X

Rhagenwau personol

Chwi, chwychwi

Chwi/chi [*chi]

chi

Defnydd o ffurfiau personol yn brin

chi

chi

chi

Chi/ti

Chi/ti/chdi/fe

Chi/ti/chdi/fe

Negyddu

Nid ydwyf….

Nid wyf….

Nid wyf….

Nid wyf/ Dw i ddim…

Nid wyf/ Dw i ddim…

Dw i ddim…

Dw i ddim…  [*Dydw i ddim….]

Dw i ddim…

Dw i’m/Sai’n…./Sana i…./Nagw i….

Fi ddim….

Brawddeg hir, amlgymalog

X

X

X [**Dim mwy na 25 gair mewn brawddeg]

X

X

X

X

Geirfa

Gall gynnwys geiriau hynafol/
anarferedig

Gall gynnwys geiriau hynafol ond
arferedig

Geirfa gyfoes safonol

Termau technegol parth-benodol

Geirfa gyfoes safonol

Geirfa wedi’i symleiddio

Syml safonol

Syml gydag elfennau
cwtogi/cywasgu/ymwthiol

Marcwyr tafodieithol amlwg:

De: taw

ma’s/mâs, moyn, ffaelu

Gogledd: efo/ hefo, lan,rŵan

ddaru

Gall gynnwys geiriau anweddus,
rhegfeydd, llawer o eiriau Saesneg

Cwtogi/cywasgu

X

X

X

X

X

X

Llafariaid ymwthiol

X

X

X

X

X

X

 
 
Cyfatebiaeth Math Testun a Chywair

Noder: gall llenyddiaeth greadigol e.e. nofelau gynnwys nifer o gyweiriau gwahanol er mwyn cyfleu gwahanol effeithiau ac felly nis cymhwysir isod

  Hynafol Clasurol Ffurfiol Technegol Niwtral Iaith symledig / Cymraeg Clir Anffurfiol Anffurfiol iawn/llafar Tafodieithol Sathredig
Dyfyniadau o hen areithiau etc, testunau crefyddol

X

Deddfwriaeth, cytundebau gwladwriaethol

X

Adroddiadau pwyllgor, gweinyddiaeth gyhoeddus, newyddiaduraeth glasurol

X

Dogfennaeth dechnegol, papurau ymchwil

X

Traethodau plant ysgol, myfyrwyr, datganiadau i’r wasg

X

X

Ffurflenni, taflenni, gwefannau corfforaethol, ymgyrchoedd cyhoeddus

X

X

Ffurflenni, taflenni, gwefannau etc  iaith ragnodol

X

Newyddiaduraeth boblogaidd

X

X

Llythyrau preifat

X

Trawsgrifiadau o iaith lafar, sgriptiau wedi’u bwriadu i’w llefaru

X

Blogiau corfforaethol

X

X

Blogiau preifat

X

X

X

Facebook a chyfryngau cymdeithasol tebyg

X

X

X

Twitter

X

X

X

 

Ap Paldaruo – Telerau ac Amodau

Wrth i chi ddefnyddio’r ap Paldaruo, bydd recordiadau o’ch llais yn cael eu llwytho i fyny i’w cadw ar ein gweinyddion. Gall y recordiadau gael eu defnyddio yn y dyfodol ar gyfer ymchwil academaidd, datblygu systemau adnabod lleferydd ac offer iaith tebyg.

Ni fydd yr ap Paldaruo yn recordio heb i chi ganiatáu iddo gael mynediad at feicroffon eich dyfais ac i chi glicio ar y botymau priodol i gychwyn recordio. Bydd yr ap Paldaruo bob tro yn rhoi gwybod pryd mae’n recordio.

Mae’r ap Paldaruo yn gofyn i chi fewnbynnu manylion am eich cefndir daearyddol, acen, oed a rhyw er mwyn eu cysylltu â recordiadau. Mae eich hawliau o ran cyfrannu yn ddienw a chadw cyfrinachedd yn bwysig iawn i ni ac ni fydd unrhyw fodd i adnabod cyfranwyr unigol o’r data y byddwn yn casglu. Ni fydd yr ap Paldaruo yn gofyn am eich enw a chyfeiriad o gwbl. Bydd yn clustnodi ac yn defnyddio rhif adnabod unigryw ar eich cyfer. Nid yw’r ap Paldaruo yn casglu’r enw rydych yn ei roi i’ch proffil o fewn yr ap. Mae eich enw proffil yn aros ac yn bodoli ar eich dyfais chi yn unig.

Rydym yn ofalus iawn am ddiogelwch data defnyddwyr ap Paldaruo, yn enwedig plant. Dylai plant o dan 17 oed cael caniatâd gan rieni/gwarcheidwaid cyn defnyddio’r ap Paldaruo. Hefyd dylai rhieni/ gwarcheidwaid sy’n caniatáu i’w plentyn ddefnyddio’r ap oruchwylio hynny’n ofalus. Drwy ganiatáu i’ch plentyn gael defnyddio’r ap Paldaruo, rydych chi’n caniatáu i’ch plentyn anfon eu recordiadau a metadata atom.

Os hoffech chi dderbyn rhagor o newyddion am y project, yna rhowch eich cyfeiriad e-bost i ni. Ni fydd cysylltiad rhwng y recordiadau a’r cyfeiriadau e-bost ac felly ni fydd yn bosibl adnabod cyfranwyr unigol.

Mae gennych chi hawl i dynnu eich cyfraniad yn ôl yn ystod cyfnod casglu’r project drwy ddefnyddio’r nodwedd ‘Sut i reoli’ch data’ o fewn yr ap. Ni fydd modd tynnu eich cyfraniad wedi i’r project ddod i ben ac i’r holl ddata gael ei gyhoeddi.

Gall y telerau hyn newid dros amser, ac os digwydd hynny, byddwn yn dweud wrthych ac yn gofyn i chi ddarllen a derbyn y telerau defnydd unwaith eto.

Drwy glicio ar y botwm ‘Derbyn’ rydych chi yn caniatáu i’ch recordiadau a’ch data gael eu danfon at ein gweinyddion ar gyfer holl ddibenion project GALLU: Gwaith Adnabod Lleferydd Uwch.

Raspberry Pi a’r Fraich Robot

Beth yw Raspberry Pi?

Cyfrifiadur maint cerdyn credyd yw Raspberry Pi sydd yn costio tua £30. Er ei fod yn rhad, mae’n eithaf pwerus, ac yn ddelfrydol ar gyfer rhai clybiau dysgu codio. Un o amcanion project GALLU yw helpu clybiau codio i raglennu Raspeberry Pi i symud braich robot syml gyda chyfarwyddiadau llafar Cymraeg.

Braich Robot

Dyma Miss Deufys, tegan braich robot. Dim ond dau fys sydd ganddi, ond mae’n medru gafael, troi a gollwng pethau. Mae Miss Deufys yn ymateb i’ch gorchmynion llafar Cymraeg.

Dyma’r symudiadau mae Miss Deufys yn gallu gwneud:

golau ymlaen
gafael agor
gafael cau
arddwrn i fyny / arddwrn lan
arddwrn i lawr
penelin i fyny / penelin lan
penelin i lawr
ysgwydd i fyny / ysgwydd lan
ysgwydd i lawr
troi i’r dde
troi i’r chwith
 

Mae Miss Deufys yn ymateb i raglen “Python” ar y Raspberry Pi hefyd:

[code language=”python”]
# Program rheoli braich robot

# mewnforio’r llyfrgelloedd USB a Tie i Python
import usb.core, usb.util, time

#Rhoi enw "BraichRobot" i’r ddyfais USB
BraichRobot = usb.core.find(idVendor=0x1267,idProduct=0x0000)

#Gwirio a yw’r fraich wedi’i chysylltu
if BraichRobot is None:
raise ValueError("Braich heb ei chysylltu")

#Creu newidyn "Hyd"
Hyd=1

#Creu trefn i weithredu pob symudiad
def SymudBraich(Hyd, GorchBraich):

#Dechrau’r symudiadau
BraichRobot.ctrl_transfer(0x40,6,0×100,0,GorchBraich,1000)

#Stopio’r symudiadau ar ol cyfnod penodol
time.sleep(Hyd)

GorchBraich=[0,0,0]
BraichRobot.ctrl_transfer(0x40,6,0×100,0,GorchBraich,1000)

#Gorchmynion i’r robot
SymudBraich(1,[0,1,0]) #Troi i’r chwith
SymudBraich(1,[0,2,0]) #Troi i’r dde
SymudBraich(1,[64,0,0]) #Ysgwydd i fyny
SymudBraich(1,[128,0,0]) #Ysgwydd i lawr
SymudBraich(4,[16,0,0]) #Penelin i fyny
SymudBraich(4,[32,0,0]) #Penelin i lawr
SymudBraich(1,[4,0,0]) #Arddwrn i fyny
SymudBraich(1,[8,0,0]) #Arddwrn i lawr
SymudBraich(1,[2,0,0]) #Gafael agor
SymudBraich(1,[1,0,0]) #Gafael cau
SymudBraich(1,[0,0,1]) #Golau ymlaen

[/code]

Cwestiynau Metadata Ap Paldaruo

1. Ym mha flwyddyn cawsoch chi eich geni?

2. Beth yw’ch rhyw?

Benyw
Gwryw

3. Ym mha ranbarth treuliasoch chi’r rhan fwyaf o’ch plentyndod?

De Ddwyrain Cymru
De Orllewin Cymru
Gogledd Ddwyrain Cymru
Gogledd Orllewin Cymru
Canolbarth Cymru
Gogledd Lloegr
Canolbarth Lloegr
De Lloegr
Gwlad arall
Nifer o ardaloedd

4. Enwch eich ysgol uwchradd olaf.

Os nad ydych chi wedi mynd i’r ysgol uwchradd, rhowch ‘dim’

5. Ble rydych chi’n byw ar hyn o bryd?

De Ddwyrain Cymru
De Orllewin Cymru
Gogledd Ddwyrain Cymru
Gogledd Orllewin Cymru
Canolbarth Cymru
Gogledd Lloegr
Canolbarth Lloegr
De Lloegr
Gwlad arall
Nifer o ardaloedd

6. Fel arfer, pa mor aml ydych chi’n siarad Cymraeg?

Llai nag awr y mis
O leiaf awr y mis
O leiaf awr yr wythnos
O leiaf awr y dydd
Tua hanner yr amser
Rhan fwyaf o’r amser
Bron yn ddieithriad

7. Ym mha gyd-destun rydych chi’n siarad Cymraeg?

Dewiswch y cyd-destunau ble rydych chi’n siarad Cymraeg unwaith yr wythnos neu fwy

Ddim yn siarad Cymraeg yn rheolaidd
Gartref yn unig
Ysgol/coleg/gwaith yn unig
Gyda ffrindiau yn unig
Gartref + Ysgol/coleg/gwaith
Gartref + Ffrindiau
Ysgol/coleg/gwaith + Ffrindiau
Gartref + Ysgol/coleg/gwaith + Ffrindiau
Arall

8. Ydych chi’n siarad Cymraeg gydag acen iaith gyntaf?

Atebwch ‘Iaith Gyntaf’ os os gennych chi acen iaith gyntaf, neu ‘Dysgwr’ os oes gennych chi acen dysgwr

Acen Dysgwr
Acen Iaith Gyntaf

9. Acen pa ranbarth sydd gennych chi?
Dewiswch yr ardal mae’ch acen yn dod ohoni (hyd yn oed os ydych chi’n byw yn rhywle arall)

De Ddwyrain
De Orllewin
Gogledd Ddwyrain
Gogledd Orllewin
Canolbarth
Acen gymysg/Arall