Category Archives: Offer Prawfddarllen

Gwirydd Sillafu Cymraeg ar gyfer InDesign

Dyma ffeil zip sy’n eich galluogi i ychwanegu gwirio sillafu Cymraeg i Adobe InDesign 5.5+.

hunspell

Ar ôl llwytho’r ffeil i lawr, agorwch y ffeil zip. Mae’r ffeiliau perthnasol (cy_GB.dic a cy_GB.aff) o fewn y ffolder “dictionaries” oddi mewn i’r zip.

Mae cyfarwyddiadau ar gyfer lle i’w gosod i’w cael yma:
http://helpx.adobe.com/indesign/kb/add_cs_dictionaries.html

Mae’r  ffeiliau hyn yn cael eu datblygu a’i ryddhau ar y cyd gan Troi ac Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.

Nodyn: Ar hyn o bryd nid yw’r ffeiliau yn adnabod ffurfiau fel “mae’r” ac “yw’n” sy’n cynnwys collnod. Mae hyn yn ddiffyg yn y dull y mae’r geiriaduron sillafu hyn wedi eu ffurfio ac rydyn ni’n ceisio dod o hyd i ddatrysiad. Yn y cyfamser, gallwch ychwanegu’r ffurfiau mwyaf cyffredin i’ch geiriadur personol yn InDesign.

Cysill

Gwirydd sillafu a gramadeg soffistigedig yw Cysill. Mae’n gwneud mwy na chywiro camsillafu gan ei fod yn gallu adnabod gwallau gramadegol fel camdreiglo a chynnig awgrymiadau ar sut i’w cywiro. Mae hefyd yn cynnwys thesawrws hynod o ddefnyddiol a nodwedd i wirio rhediadau berfol. Mae Cysill yn rhan o becyn Cysgliad ar gyfer cyfrifiaduron sy’n rhedeg Windows.

E-gyhoeddwr

Yn ystod haf 2011 comisiynodd Cyngor Llyfrau Cymru yr Uned Technolegau Iaith i ymchwilio i e-gyhoeddi yn y Gymraeg ar eu cyfer. Cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau yr adroddiad hwn ym mis Hydref 2011, a darparwyd hefyd ganllawiau technegol manwl ar sut i gyhoeddi e-lyfr ar ffurf EPUB.

Yn dilyn hyn, dyfarnodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg grant bychan i’r Uned i greu gwefan a rhaglennig i gynorthwyo cyhoeddwyr i baratoi testunau Cymraeg ar gyfer eu cyhoeddi ar ffurf E-Pub. Mae’r wefan yn gwirio testun am y problemau arferol sydd wrth greu e-lyfrau Cymraeg, fel problemau gyda dynodi’r acenion ŵ, Ŵ, ŷ ac Ŷ, cyn trosi’r cyfan i ffeil ar ffurf E-Pub. Mae modd lawrlwytho’r ffeiliau E-Pub gorffenedig a’u cyhoeddi yn ôl dymuniad y defnyddiwr.

Ewch i http://techiaith.bangor.ac.uk/e-gyhoeddwr

Datblygwyd yr adnodd hwn gan Dewi Bryn Jones a David Chan.

Gwirydd sillafu Microsoft

Yr Uned Technolegau Iaith sy’n gyfrifol am y pecyn gwirio sillafu Cymraeg y mae Microsoft yn ei ddarparu am ddim i ddefnyddwyr Microsoft Word. Gallwch lwytho’r pecyn i lawr yma. Ar ôl ei osod a dewis Cymraeg fel iaith y ddogfen, bydd geiriau nad ydynt yn cael eu hadnabod fel geiriau Cymraeg dilys yn cael eu tanlinellu â llinell goch donnog. O dde-glicio ar y geiriau hynny caiff cywiriadau posib eu hawgrymu.

Cysill Ar-lein

Mae Cysill Ar-lein (2009) yn wefan rhad ac am ddim ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg. Mae’n seiliedig ar raglen fasnachol gwirio sillafu a gramadeg Cysill sy’n rhan o becyn meddalwedd Cysgliad (2004) ar gyfer Windows, ond mae wedi’i gyfyngu i wirio testunau 3000 nod o hyd. Fel sydd wedi’i nodi yn y Telerau Defnydd, caiff testunau a gyflwynir i’r wefan eu storio fel corpws ar gyfer ymchwil academaidd, sy’n ffurfio ffynhonnell ddefnyddiol o gyfrif amlderau geiriau, geiriau newydd, gwallau cyffredin, ffurfiau tafodieithol ac enwau. Nid yw’r corpws ar gael yn gyhoeddus oherwydd rhesymau yn ymwneud â phreifatrwydd, ond ceir rhannau anonymeiddiedig ohono yn ein Corpws Enghreifftiol Cyweiriau Iaith.

Cysgliad

Beth yw Cysgliad?

Pecyn meddalwedd ar gyfer eich cyfrifiadur PC yw Cysgliad. Mae dwy brif raglen yn rhan o’r pecyn, sef:

Cysill
Rhaglen sy’n canfod ac yn cywiro camgymeriadau ieithyddol mewn dogfennau Cymraeg yw Cysill. Gall adnabod camgymeriadau teipio, camsillafu a  chamgymeriadau gramadegegol gan gynnwys camdreiglo. Yn ogystal ag awgrymu cywiriadau lle bo’u hangen, yn achos camgymeriadau gramadegol mae’n egluro natur y gwall er mwyn eich helpu i osgoi’r gwall yn y dyfodol.

Mae Cysill hefyd yn cynnwys geiriadur llygoden, sef nodwedd sy’n dangos cyfieithiad o air mewn testun pan fyddwch chi’n cadw’r pwyntydd uwch ei ben.

Mae Cysill hefyd yn cynnwys thesawrws sy’n eich helpu i ganfod geiriau gwahanol gydag ystyron tebyg – ffordd berffaith o gynyddu eich geirfa!

 

Cysgeir
Rhaglen arall sydd i’w chael o fewn Cysgliad yw Cysgeir, sef casgliad o nifer o eiriaduron gwahanol ar ffurf electronig cyfleus. Mae’n cynnwys cannoedd ar filoedd o gofnodion, ond eto mae’n hawdd dod o hyd i’r cofnod perthnasol yn gyflym diolch i’w ryngwyneb clyfar, cyfeillgar.

 

Am ragor o wybodaeth ac i brynu Cysgliad ewch i http://www.cysgliad.com