Category Archives: Geiriaduron Cyffredinol

Ap Geiriaduron

Mae Ap Geiriaduron yn eiriadur Saesneg-Cymraeg/Cymraeg-Saesneg sy’n caniatáu i chi chwilio all-lein am filoedd o eiriau Cymraeg a Saesneg trwy nifer o ffynonellau, gan gynnwys CysGair ac ‘Y Termiadur Addysg’.

Mae’r ap ar gael ar gyfer iOS, Android Fire OS Amazon.

ap

Nodweddion:

  • Chwilio’n sydyn mewn amser real
  • Geiriadur all-lein er mwyn chwilio ar unrhyw adeg
  • Ap cyffredinol ar gyfer Android, iPad a’r iPhone
  • Graffigau ar gyfer Retina Display
  • Iaith y sgrin ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gyda modd i newid yr iaith
  • Gallu dad-dreiglo a dad-redeg berfau i ddangos ffurf wreiddiol i eiriau
  • Nodwedd manylu er mwyn cael gwybodaeth fwy manwl ar unrhyw air
  • Chwilio gyda nodau chwilio; e.e. ei ddefnyddio fel odliadur drwy chwilio am ‘*aith’ er mwyn dangos geiriau sydd yn gorffen gyda ‘aith’
  • Cynnwys y Geiriadur CysGair gyda dros 25,000 o eiriau Cymraeg a 25,000 o eiriau Saesneg
  • Cynnwys geiriadur ‘Y Termiadur Addysg’; wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel geiriadur o dermau addysg safonol
  • Porth i chwilio’n bellach ar-lein gyda’r Porth Termau ar termau.org
  • Diweddariadau awtomatig er mwyn ychwanegu termau a geiriau newydd

Wedi’i greu gan Patrick Robertson, David Chan, Gruffudd Prys, Dewi Jones ac aelodau eraill o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.

Mae Ap Geiriaduron yn ap Prifysgol Bangor, wedi’i ran-ariannu gan gynllun Go Wales.

Geiriadur Bangor

Mae Geiriadur Bangor yn eiriadur ar-lein dwyieithog Cymraeg/Saesneg a lansiwyd yn 2014 er mwyn llenwi’r bwlch a adawyd wedi i’r BBC beidio a pharhau i gynnal y geiriadur Learn Welsh Dictionary oedd wedi’u anelu at ddysgwyr Cymraeg. Mae Geiriadur Bangor yn cynnwys geiriadur cyffredinol, Cysgair2 (2004) ac Y Termiadur Addysg (Prys a Prys 2011), y geiriadur termau safonol a ddatblygir ar gyfer addysg gynradd, uwchradd, a phellach yng Nghymru.

Mae cofnodion y geiriaduron yn cynnwys y prifair, rhan ymadrodd dadamwysol (er mwyn gwahaniaethu rhwng enwau a berfau Saesneg sy’n rhannu’r un ffurf), testun i ddadamwyso’r cysyiniad (er mwyn gwahaniaethu rhwng cysyniadau sy’n rhannu’r un ffurf), yn ogystal â’r gair cyfatebol yn yr iaith darged, y rhan ymadrodd, a’r ffurfiau lluosog.

Cysgair

Cysgair yw’r geiriadur cyffredinol Cymraeg/Saesneg sy’n rhan o Cysgeir, sef y casgliad o eiriaduron a geir ym mhecyn Cysgliad ar gyfer cyfrifiaduron sy’n rhedeg Windows. Wrth chwilio, mae’n ddigon clyfar i ddangos y cofnod perthnasol hyd yn oed os yw’r hyn yr ydych chi’n ei roi yn y blwch chwilio yn air wedi’i dreiglo (e.e. ‘redeg’), yn ffurf ferfol (e.e. ‘rhedodd’), neu yn ffurf luosog (fel ‘rhedwyr’).

Geiriadur yr Academi Ar-lein

Datblygwyd y fersiwn ar-lein o Eiriadur yr Academi yn wreiddiol ar gyfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg (sydd bellach disodli gan Gomisiynydd y Gymraeg ). Mae’n fersiwn ddigidol, hygyrch o Geiriadur yr Academi – Yr Academi Gymreig Geiriadur Saesneg-Cymraeg / The Welsh Academy English-Welsh Dictionary Online ( Griffiths a Jones 1995) a gyhoeddwyd gyntaf yn ffurf print ac digideiddio ddiweddarach gan yr Uned Technolegau Iaith i gynhyrchu fersiwn ar-lein.

Fe’i seiliwyd yn wreiddiol ar eiriadur Saesneg- Ffrangeg Harrap a dyma mewn gwirionedd yw’r geiriadur uncyfeiriad Saesneg i Gymraeg cynhwysfawr modern cyntaf.  Ymddangosodd mewn pryd i hwyluso’r gwaith o gwrdd â’r anghenion cyfieithu a ddaeth yn sgil datganoli yng Nghymru. Lansiodd y fersiwn arlein ym mis Chwefror 2012, gan ddarparu gwell mynediad at gynnwys y geiriadur drwy gyfleusterau chwilio hwylus a’r ffaith ei fod ar gael yn rhad ac am ddim. Yn ogystal â phrifeiriau, rhannau ymadrodd, geiriau cyfatebol yn yr iaith darged a’u ffurfiau lluosog, mae’r geiriadur hefyd yn cynnwys ymadroddion a’u cyfieithiadau.