Category Archives: Enwau Lleoedd

Enwau Cymru

Angen gwybod a oes enw Cymraeg ar gyfer enw lle Saesneg (neu’r gwrthwyneb)? Enwau Cymru yw’r wefan i chi. Mae’n rhoi plwyf, sir draddodiadol ac awdurdod unedol y lle dan sylw, yn ogystal â darparu ffeil sain gydag ynganiad cywir rhai o’r enwau mwyaf amlwg. Mae hefyd yn nodi lleoliad yr enw lle ar fap, rhywbeth sy’n ddefnyddiol iawn pan fod angen gwahaniaethu rhwng y tri Newport sy’n bodoli yng Nghymru wrth gyfieithu, er enghraifft!